Sut Rydych Chi’n Teimlo am y Dyfodol?
A fydd pethau . . .
-
yn aros yr un fath?
-
yn mynd yn waeth?
-
yn gwella?
MAE’R BEIBL YN DWEUD:
“Bydd [Duw] yn sychu pob deigryn o’u llygaid nhw. Fydd dim marwolaeth o hyn ymlaen, dim galaru, dim wylo, dim poen. Mae’r pethau oedd o’r blaen wedi mynd.”—Datguddiad 21:4, beibl.net.
MAE HYNNY’N GOLYGU
Gwaith sy’n werth ei wneud.—Eseia 65:21-23.
Diwedd ar salwch a dioddefaint.—Eseia 25:8; 33:24.
Bywyd tragwyddol a hapus yng nghwmni teulu a ffrindiau.—Salm 37:11, 29.
OND ALLWN NI GREDU BETH MAE’R BEIBL YN EI DDWEUD?
Gallwn, am o leiaf ddau reswm:
-
Mae gan Dduw’r gallu i wireddu ei addewidion. Yn y Beibl, Jehofa Dduw yn unig sy’n cael ei alw’n “Hollalluog” oherwydd does dim terfyn ar ei allu. (Datguddiad 15:3) Felly, nid yw’n anodd i Dduw gadw ei air a newid y byd er gwell. Fel mae’r Beibl yn dweud, “mae Duw’n gallu gwneud popeth!”—Mathew 19:26.
-
Mae Duw eisiau gwireddu ei addewidion. Er enghraifft, mae Jehofa yn edrych ymlaen yn fawr at yr amser pan fydd yn codi’r meirw yn fyw.—Job 14:14, 15.
Mae’r Beibl hefyd yn dangos bod Mab Duw, Iesu, wedi iacháu pobl o’u salwch. Pam y gwnaeth hynny? Oherwydd dyna roedd Iesu eisiau ei wneud. (Marc 1:40, 41) Pan oedd Iesu yn helpu pobl mewn angen, roedd yn adlewyrchu cymeriad ei Dad yn berffaith.—Ioan 14:9.
Felly, gallwn fod yn hollol sicr fod Jehofa a Iesu eisiau inni gael dyfodol hapus!—Salm 72:12-14; 145:16; 2 Pedr 3:9.
CWESTIWN I FEDDWL AMDANO
Sut bydd Duw yn newid y byd?
Mae’r Beibl yn ateb y cwestiwn hwnnw yn MATHEW 6:9, 10 ac yn DANIEL 2:44.