Mae Iesu’n Achub—Ond Sut?
Ateb y Beibl
Gwnaeth Iesu achub pobl ffyddlon pan roddodd ei fywyd yn aberth pridwerthol. (Mathew 20:28) Dyna pam mae’r Beibl yn dweud fod Iesu wedi “achub y byd.” (1 Ioan 4:14) Mae’r Beibl hefyd yn dweud: “Fe ydy’r unig un sy’n achub! Does neb arall yn unman sy’n gallu achub pobl.”—Actau 4:12.
Mae Iesu “wedi marw dros bob un” sy’n arfer ffydd ynddo. (Hebreaid 2:9; Ioan 3:16) Ar ôl tridiau, “dyma Duw yn dod ag e yn ôl yn fyw,” a dychwelodd Iesu i’r nef fel ysbryd. (Actau 3:15) Ac o’r fan honno, mae Iesu’n gallu “achub un waith ac am byth y bobl hynny mae’n eu cynrychioli o flaen Duw! Ac mae e hefyd yn fyw bob amser i bledio ar eu rhan nhw.”—Hebreaid 7:25.
Pam rydyn ni angen i Iesu bledio ar ein rhan?
Rydyn ni i gyd yn bechaduriaid. (Rhufeiniaid 3:23) Mae pechod yn rhwystr rhyngon ni a Duw, ac yn achosi marwolaeth. (Rhufeiniaid 6:23) Ond mae Iesu yn ‘pledio ar ran’ y rhai sy’n dangos ffydd yn ei aberth pridwerthol. (1 Ioan 2:1) Mae’n pledio ar eu rhan gan ofyn i Dduw wrando ar eu gweddïau a maddau eu pechodau ar sail marwolaeth aberthol Iesu. (Mathew 1:21; Rhufeiniaid 8:34) Mae Duw yn gweithredu ar y fath bledion am eu bod yn unol â’i ewyllys Ef. Anfonodd Duw Iesu i’r ddaear er mwyn “achub y byd” drwyddo ef.—Ioan 3:17.
Ydy credu yn Iesu yn ddigon er mwyn cael ein hachub?
Nac ydy. Er bod rhaid inni gredu yn Iesu er mwyn cael ein hachub, dydy hyn ddim yn ddigon. (Actau 16:30, 31) Mae’r Beibl yn dweud: “Yn union fel mae corff yn farw os oes dim anadl ynddo, mae credu heb weithredu yn farw!” (Iago 2:26) Er mwyn cael ein hachub, rhaid inni:
Ddysgu mwy am Iesu a’i Dad, Jehofa.—Ioan 17:3.
Meithrin ffydd ynddyn nhw.—Ioan 12:44; 14:1.
Dangos ein ffydd ynddyn nhw drwy ufuddhau i’w gorchmynion. (Luc 6:46; 1 Ioan 2:17) Dysgodd Iesu na fyddai pob un sy’n ei alw’n “Arglwydd” yn cael ei achub, ond “dim ond y bobl hynny sy’n gwneud beth mae [ei Dad] yn y nefoedd yn ei ofyn.”—Mathew 7:21.
Parhau i ddangos ein ffydd er gwaethaf caledi. Gwnaeth Iesu hyn yn amlwg drwy ddweud: “Bydd yr un sy’n sefyll yn gadarn i’r diwedd un yn cael ei achub.”—Mathew 24:13.