Ai’r Hollalluog Dduw Ydy Iesu?
Ateb y Beibl
Cyhuddwyd Iesu gan ei wrthwynebwyr o wneud ei hun yn gyfartal â Duw. (Ioan 5:18; 10:30-33) Ond, wnaeth Iesu erioed honni ei fod yn gydradd â’r Hollalluog Dduw. Dywedodd: “Mae’r Tad yn fwy na fi.”—Ioan 14:28.
Doedd dilynwyr cynnar Iesu ddim yn ei weld yn gyfartal â Duw Hollalluog. Er enghraifft, wrth sôn am Iesu ar ôl iddo gael ei atgyfodi, dywedodd yr apostol Paul fod Duw wedi “ei ddyrchafu [Iesu] i’r safle uchaf.” Mae’n amlwg nad oedd Paul yn credu bod Iesu yn Dduw Hollalluog. Neu, fel arall, sut gallai Duw ddyrchafu Iesu i safle uwch?—Philipiaid 2:9.