EFELYCHU EU FFYDD | JOB
Yn Ffyddlon Trwy’r Cwbl
Eisteddodd ar y llawr, yn friwiau poenus o’i gorun i’w sawdl. Gallwn ei ddychmygu, yn gefngrwm ac yn unig, prin yn gallu magu’r nerth i hel ymaith y pryfed oedd yn ei blagio. Yn arwydd o’i alar, eisteddodd ar y domen lludw, yn crafu ei groen â darn o lestr pridd. Roedd wedi colli cymaint, wedi cwympo mor bell! Roedd ei ffrindiau, ei gymdogion, a’i deulu wedi cefnu arno. Roedd pobl, hyd yn oed plant, yn gwneud hwyl am ei ben. Roedd yn credu bod ei Dduw, Jehofa, wedi troi yn ei erbyn hefyd, ond nid oedd hynny’n wir.—Job 2:8; 19:18, 22.
Enw’r dyn hwn oedd Job. Dywedodd Duw amdano: “Does neb tebyg iddo ar wyneb y ddaear.” (Job 1:8) Ganrifoedd yn ddiweddarach, roedd Jehofa yn dal i ystyried Job yn un o’r dynion mwyaf cyfiawn ar wyneb y ddaear.—Eseciel 14:14, 20.
Ydych chi’n wynebu adfyd a thristwch? Bydd hanes Job yn gysur mawr ichi. Fe fydd yn eich helpu i ddeall sut gall gweision ffyddlon Duw ei garu cymaint nes eu bod yn dal i wneud ei ewyllys hyd yn oed pan fydd pethau’n anodd. Dewch inni ddysgu mwy drwy ystyried hanes Job.
Rhywbeth Nad Oedd Job yn ei Wybod
Mae rheswm inni gredu mai Moses a ysgrifennodd hanes Job, rywbryd ar ôl i Job farw. O dan ddylanwad yr ysbryd glân, roedd Moses yn gallu datgelu, nid yn unig yr hyn a ddigwyddodd ar y ddaear yn achos Job, ond hefyd rai pethau a ddigwyddodd yn y nef.
Ar ddechrau’r hanes, gwelwn Job yn fodlon ei fyd. Roedd yn ddyn cyfoethog, yn adnabyddus, ac yn uchel ei barch yng ngwlad Us, a oedd o bosib yng ngogledd Arabia. Roedd yn hael ac yn gefnogol i bobl anghenus a gwan. Roedd gan Job a’i wraig ddeg o blant. Dyn ysbrydol oedd Job. Roedd yn perthyn o bell i Abraham, Isaac, Jacob, a Joseff, ac fel y nhw, roedd yn awyddus iawn i blesio Jehofa. Yn debyg i’r dynion ffyddlon hynny, gweithredai Job fel offeiriad i’w deulu, yn cynnig offrymau yn rheolaidd ar ran ei blant.—Job 1:1-5; 31:16-22.
Ond yn sydyn, mae’r olygfa yn newid yn hanes Job. Cawn gipolwg ar yr hyn sy’n digwydd yn y nef, a dysgwn am bethau na fyddai Job yn gwybod dim amdanyn nhw. Roedd yr angylion ffyddlon wedi ymgasglu o flaen Duw, a’r angel drwg Satan yn eu plith. Fe wyddai Jehofa fod Satan yn casáu’r dyn cyfiawn Job, ac felly siaradodd â Satan, gan dynnu sylw at ffyddlondeb arbennig Job. Ateb haerllug Satan oedd: “Ond mae dy addoli di yn fanteisiol iddo! Y ffaith ydy, rwyt ti wedi gosod ffens o’i gwmpas i’w amddiffyn, ac o gwmpas ei deulu a phopeth sydd ganddo.” Mae’n gas gan Satan bobl ffyddlon. Maen nhw’n caru Jehofa â’u holl galonnau, ac yn profi mai bradwr hollol ddigariad ydy Satan. Felly taerodd Satan fod Job yn addoli Duw am resymau hunanol yn unig. Petai Job yn colli popeth, meddai Satan, fe fyddai’n melltithio Jehofa yn ei wyneb!—Job 1:6-11.
Nid oedd Job yn gwybod, ond roedd Jehofa wedi rhoi braint fawr iddo, sef y cyfle i brofi fod Satan yn dweud celwydd. Cafodd Satan ganiatâd i gymryd holl eiddo Job oddi wrtho, ar yr amod nad oedd yn cyffwrdd â’r dyn ei hun. Felly aeth Satan ati’n syth i ymosod yn greulon ar Job. O fewn diwrnod, cafodd Job ei daro gan gyfres o ergydion trwm. Clywodd ei fod wedi colli ei anifeiliaid i gyd, yr ychen a’r asennod, ac yna’r defaid a’r camelod. Yn waeth byth, fe laddwyd y gweision oedd yn gofalu amdanyn nhw. Yn achos y defaid, dywedodd y negesydd fod mellten wedi eu lladd, gan awgrymu mai Duw oedd yn gyfrifol. Cyn i Job allu deall y golled neu’r tlodi a oedd yn ei wynebu, daeth yr ergyd greulonaf oll. Roedd ei blant i gyd yn ymweld â’u brawd hynaf pan gafodd y tŷ ei ddinistrio gan gorwynt, gan ladd pob un ohonyn nhw!—Job 1:12-19.
Mae bron yn amhosib dychmygu sut roedd Job yn teimlo. Rhwygodd ei ddillad, siafiodd ei ben, a syrthiodd ar ei luniau i’r llawr. Daeth Job i’r casgliad fod Duw wedi rhoi popeth iddo, a bod Duw wedi cymryd popeth oddi arno. Yn gyfrwys iawn, roedd Satan wedi gwneud iddi ymddangos fel mai Duw oedd wedi achosi’r trychinebau. Serch hynny, ni wnaeth Job felltithio Duw, fel yr oedd Satan yn darogan. Yn wir, dywedodd Job: “Boed i enw’r ARGLWYDD gael ei foli!”—Job 1:20-22.
“Byddai’n Dy Felltithio Di”
Roedd Satan yn gandryll, ond nid oedd am roi’r gorau iddi. Pan ymddangosodd yr angylion eto o flaen Jehofa, daeth Satan gyda nhw. Eto, canmolodd Jehofa ffyddlondeb Job a oedd yn sefyll yn gadarn er gwaethaf holl ymosodiadau Satan. Atebodd Satan yn hy: “Croen am groen!—mae pobl yn fodlon colli popeth i achub eu bywydau! Petaet ti’n ei daro ag afiechyd a gwneud iddo ddioddef, byddai’n dy felltithio di yn dy wyneb!” Roedd Satan yn sicr petai Job yn ddifrifol wael, y byddai’n melltithio Duw. Ond roedd Jehofa yn ymddiried yn Job. Gadawodd i Satan ddifetha iechyd Job, ar yr amod na fyddai’n ei ladd.—Job 2:1-6.
Yn fuan iawn, roedd Job yn y cyflwr a ddisgrifiwyd ar ddechrau’r erthygl hon. Dychmygwch deimladau ei wraig druan. Roedd colli’r plant wedi torri ei chalon, a nawr roedd hi’n gorfod gweld ei gŵr yn dioddef salwch blin a hithau’n methu gwneud dim i’w helpu! Yn ei phoen, dywedodd wrtho: “Ti’n dal mor ffyddlon ag erioed, wyt ti? Melltithia Dduw, er mwyn i ti gael marw!” Bron na allai Job adnabod llais ei wraig annwyl yn y geiriau chwerw hyn. Y cyfan y gallai ei ddweud oedd ei bod hi’n siarad fel petai hi wedi colli’i phwyll. Eto, gwrthododd felltithio Duw, na dweud dim a fyddai’n pechu yn ei erbyn.—Job 2:7-10.
Oeddech chi’n gwybod bod y stori wir hon yn berthnasol i chi? Sylwch fod Satan wedi anelu ei gyhuddiadau maleisus, nid yn erbyn Job yn unig, ond yn erbyn y ddynolryw i gyd. Dywedodd: “Mae pobl yn fodlon colli popeth i achub eu bywydau!” Mewn geiriau eraill, mae Satan yn credu na all neb aros yn gwbl ffyddlon i Jehofa. Mae’n mynnu eich bod chithau hefyd heb wir gariad at Dduw, ac y byddech chi’n ddigon parod i gefnu ar Dduw i achub eich croen. Mewn gwirionedd, mae Satan yn dweud eich bod chi’r un mor hunanol ag yntau! Hoffech chi brofi ei fod yn anghywir? Mae’r fraint honno ar gael i bob un ohonon ni. (Diarhebion 27:11) Dewch inni weld yr her nesaf a wynebodd Job.
Cysurwyr Nad Oedd yn Gysur o Gwbl
Ar ôl clywed am ei helyntion, daeth tri dyn oedd yn adnabod Job i’w weld er mwyn ceisio ei gysuro. Pan welon nhw ef o bell, prin y gallen nhw ei adnabod. Mewn poen enbyd, a’i groen wedi troi’n ddu, nid oedd ond cysgod o’r dyn a oedd gynt. Fe wnaeth y tri dyn—Eliffas, Bildad, a Soffar—sioe fawr o’u galar, gan wylo’n uchel a thaflu pridd ar eu pennau. Yna fe eisteddon nhw ar y llawr yn dweud dim. Am wythnos gyfan, eisteddon nhw yno, ddydd a nos, heb ofyn cwestiwn nac yngan yr un gair. Mae’n amlwg nad oedden nhw’n cadw’n ddistaw er mwyn cysuro Job. Yr unig beth a ddysgon nhw oedd bod Job mewn poen ofnadwy—ac roedd hynny’n amlwg.—Job 2:11-13; 30:30.
Yn y diwedd, Job oedd yn gorfod dechrau’r sgwrs. Mewn geiriau llawn poen, melltithiodd ddiwrnod ei eni a datgelodd un rheswm dros ei ofid. Roedd Job yn ofni mai Duw oedd yn achosi ei drafferthion. (Job 3:1, 2, 23) Nid oedd Job wedi colli ei ffydd, ond roedd taer angen cysur arno. Dechreuodd y tri dyn siarad, ond yn fuan iawn sylweddolodd Job y byddai’n well petaen nhw heb agor eu cegau.—Job 13:5.
Eliffas a siaradodd gyntaf, o bosib gan mai ef oedd yr hynaf o’r tri ac yn llawer hŷn na Job. Ymhen amser, rhoddodd y ddau arall eu barn. Ar y cyfan, dilynon nhw’r un trywydd ag Eliffas. Efallai roedd eu geiriau ffug-dduwiol yn swnio’n ddiniwed wrth iddyn nhw raffu ystrydebau am Dduw yn cosbi’r drwg a gwobrwyo’r da. Ond o’r dechrau, roedd awgrymiadau digon cas o dan y wyneb. Roedd rhesymeg Eliffas yn llawer rhy syml. Yn y bôn, ei ddadl oedd: Mae Duw yn dda ac mae’n cosbi’r rhai drwg; mae Job yn cael ei gosbi, felly mae’n rhaid bod Job yn ddrwg.—Job 4:1, 7, 8; 5:3-6.
Nid yw’n syndod nad oedd Job yn cymryd at y rhesymeg honno. Fe’i gwrthododd ar ei phen. (Job 6:25) Ond daeth y tri dyn i deimlo’n fwy sicr byth bod Job yn cuddio rhyw ddrygioni; rhywsut neu’i gilydd, mae’n rhaid ei fod yn haeddu’r holl bethau drwg oedd wedi digwydd iddo. Fe wnaeth Eliffas gyhuddo Job o fod yn hunanbwysig, yn ddrwg, ac o beidio â pharchu Duw. (Job 15:4, 7-9, 20-24; 22:6-11) Dywedodd Soffar wrth Job y dylai gefnu ar ei bechodau, er mor felys oedden nhw. (Job 11:2, 3, 14; 20:5, 12, 13) Ond roedd sylwadau Bildad yn hynod o greulon. Awgrymodd ef fod meibion Job wedi pechu, ac felly’n haeddu marw!—Job 8:4, 13.
Ffyddlondeb Dan y Lach
Aeth y dynion annoeth hynny gam ymhellach. Fe wnaethon nhw fwrw amheuon nid yn unig ar ffyddlondeb Job, ond ar y syniad bod unrhyw werth o gwbl i ffyddlondeb. Yn ei araith gyntaf, disgrifiodd Eliffas gyfarfod iasol ag ysbryd anweledig. Effaith y cyfarfod hwnnw ar Eliffas oedd gwneud iddo gredu rhywbeth hollol wenwynig, sef nad oedd Duw “yn trystio ei weision,” a’i fod “yn cyhuddo ei angylion o fod yn ffôl.” Yn ôl y rhesymeg honno, mae’n hollol amhosib i fodau dynol blesio Duw! Yn nes ymlaen, mynnodd Bildad na fyddai ffyddlondeb Job o unrhyw bwys i Dduw—dim mwy nag y byddai ffyddlondeb pryfyn!—Job 4:12-18; 15:15; 22:2, 3; 25:4-6.
Ydych chi erioed wedi ceisio cysuro rhywun sy’n dioddef yn ofnadwy? Nid yw’n hawdd. Ond gallwn ddysgu llawer iawn oddi wrth y dynion a aeth i weld Job—yn bennaf am beth i beidio â’i ddweud. Yn llif diddiwedd y geiriau mawreddog a’r rhesymeg gyfeiliornus, nid oedd dim tosturi tuag at Job. Yn wir, ni wnaethon nhw hyd yn oed ddefnyddio ei enw! Doedden nhw ddim yn poeni bod Job yn torri ei galon, ac ni welon nhw fod angen ei drin yn garedig. a Felly os bydd rhywun sy’n annwyl i chi’n teimlo’n isel, cofiwch fod yn gynnes ac yn garedig. Ceisiwch gryfhau ei ffydd a’i ddewrder, a’i helpu i ymddiried yn Nuw ac i gredu yn Ei garedigrwydd, ei drugaredd, a’i gyfiawnder. Dyna y byddai Job wedi ei wneud ar gyfer ei gyfeillion petai ef yn eu lle nhw. (Job 16:4, 5) Ond sut gwnaeth Job ymateb i’r cyhuddiadau di-baid?
Safodd Job yn Gadarn
Roedd Job druan eisoes yn isel iawn pan ddechreuodd y ddadl hirfaith hon. Cyfaddefodd o’r cychwyn ei fod weithiau yn “siarad yn fyrbwyll,” ac mai ‘siarad gwag dyn diobaith’ oedd ei eiriau. (Job 6:3, 26) Gallwn ddeall pam. Roedd ei eiriau yn adlewyrchu’r poen yn ei galon. Roedden nhw hefyd yn adlewyrchu ei ddiffyg dealltwriaeth. Oherwydd i’r trychinebau ddigwydd mor sydyn a bod golwg goruwchnaturiol arnyn nhw, roedd Job yn meddwl mai Jehofa oedd wedi eu hachosi. Roedd pethau pwysig yn digwydd nad oedd Job yn gwybod dim amdanyn nhw, ac felly roedd sail ei resymu’n anghywir.
Sut bynnag, roedd gan Job ffydd gadarn. Mae hynny’n glir i’w gweld mewn llawer o’r hyn a ddywedodd yn ystod y drafodaeth—geiriau gwir a hyfryd, sy’n ein calonogi ni heddiw. Wrth drafod rhyfeddodau’r greadigaeth, cyfeiriodd Job at bethau na allai neb fod wedi eu deall oni bai bod Duw’n eu datgelu. Er enghraifft, dywedodd fod Jehofa “yn hongian y ddaear uwch y gwagle,” ffaith sydd ganrifoedd o flaen ei oes o ran dealltwriaeth wyddonol. b (Job 26:7) Pan siaradodd Job am ei obaith ar gyfer y dyfodol, cyfeiriodd at obaith y mae dynion ffyddlon eraill hefyd wedi ei goleddu. Petai’n marw, roedd Job yn credu y byddai Duw yn ei gofio, yn hiraethu amdano, ac ymhen amser yn ei atgyfodi.—Job 14:13-15; Hebreaid 11:17-19, 35.
Ond beth am y cwestiwn ynglŷn â ffyddlondeb? Roedd Eliffas a’i ddau gyfaill yn taeru nad oedd ffyddlondeb dyn yn gwneud unrhyw wahaniaeth i Dduw. A wnaeth Job dderbyn y syniad erchyll hwnnw? Naddo wir! Mynnodd Job fod ffyddlondeb o bwys mawr i Dduw. Roedd yn hyderus y byddai Jehofa yn cydnabod ei ffyddlondeb a’i weld yn “gwbl ddieuog.” (Job 31:6) Gwelodd Job yn glir mai ymosodiad ar ei ffyddlondeb oedd rhesymeg anghywir ei gysurwyr honedig. Dyna a sbardunodd Job i wneud ei araith hiraf, un a lwyddodd yn y diwedd i roi taw ar y tri dyn arall.
Roedd Job yn deall mai rhywbeth oedd ei angen bob dydd oedd ffyddlondeb. Felly esboniodd sut roedd yn ffyddlon ym mhob agwedd o’i fywyd. Er enghraifft, nid oedd yn addoli eilunod; roedd yn garedig wrth bobl eraill; roedd yn ofalus i gadw’n foesol lân ac i garu ei wraig; ac yn bwysicaf oll, arhosodd yn hollol ffyddlon i’r gwir Dduw, Jehofa. Felly roedd Job yn gallu dweud a’i holl galon: “Ni chefnaf ar fy nghywirdeb hyd fy marw.”—Job 27:5, Beibl Cymraeg Diwygiedig; 31:1, 2, 9-11, 16-18, 26-28.
Efelychwch Ffydd Job
Ydych chi’n teimlo’r un fath â Job am ffyddlondeb? Mae’n air hawdd i’w ddweud, ond roedd Job yn gwybod bod mwy i ffyddlondeb na geiriau. Rydyn ni’n dangos ein ffyddlondeb i Dduw drwy ufuddhau iddo a gwneud yr hyn sy’n iawn yn ei olwg ef bob dydd—hyd yn oed pan fydd bywyd yn anodd. Bydd hynny’n gwneud Jehofa’n hapus, ac yn rhwystro ei elyn, Satan, yn union fel y gwnaeth Job amser maith yn ôl. Nid oes dim ffordd well o efelychu Job!
Sut bynnag, nid dyna ddiwedd y stori. Roedd Job mor brysur yn cyfiawnhau ei hun, nes iddo anghofio’r peth pwysicaf, sef amddiffyn enw Duw. Roedd angen help arno i weld pethau o safbwynt Duw. Roedd Job yn dal i alaru’n ofnadwy. Roedd taer angen cysur arno. Beth byddai Jehofa yn ei wneud i helpu’r dyn ffyddlon hwn? Bydd erthygl arall yn y gyfres hon yn ateb y cwestiynau hynny.
a Yn rhyfedd iawn, roedd Eliffas yn meddwl eu bod nhw wedi cyfleu cysur Duw mewn geiriau tyner, efallai gan nad oedden nhw wedi codi eu lleisiau. (Job 15:11) Ond mae geiriau tawel yn gallu bod yr un mor greulon.
b Hyd y gwyddys, dim ond tua thair mil o flynyddoedd yn ddiweddarach cafwyd damcaniaeth gredadwy a oedd yn ategu’r syniad nad oedd angen i’r ddaear sefyll ar unrhyw wrthrych neu sylwedd arall. Dim ond pan dynnwyd lluniau o’r gofod roedd y ddynolryw yn gyffredinol yn gallu gweld tystiolaeth weledol bendant bod geiriau Job yn wir.