Ail Pedr 2:1-22
2 Fodd bynnag, gwnaeth gau broffwydi hefyd ymddangos ymhlith y bobl, fel y bydd ’na hefyd gau athrawon yn eich plith chi. Bydd y rhai hyn yn dod â sectau dinistriol i mewn yn ddistaw bach, a byddan nhw hyd yn oed yn gwadu’r perchennog a wnaeth eu prynu nhw, gan ddod â dinistr cyflym arnyn nhw eu hunain.
2 Ar ben hynny, bydd llawer o bobl yn eu dilyn nhw yn eu hymddygiad digywilydd,* ac oherwydd y rhai hynny bydd pobl yn siarad yn gas am ffordd y gwir.
3 Hefyd, oherwydd eu bod nhw’n farus, byddan nhw’n ceisio eich twyllo chi â geiriau ffug. Ond dydy eu barnedigaeth, a gafodd ei phenderfynu amser maith yn ôl, ddim yn symud yn araf deg, a dydy eu dinistr ddim yn cysgu.
4 Yn sicr, ni wnaeth Duw ddal yn ôl rhag cosbi’r angylion a bechodd, ond fe wnaeth eu taflu nhw i mewn i Tartarus,* gan eu rhoi nhw mewn cadwyni* o dywyllwch trwchus, i’w neilltuo ar gyfer cael eu barnu.
5 Ac ni wnaeth ddal yn ôl rhag cosbi hen fyd, ond fe wnaeth gadw Noa, pregethwr cyfiawnder, yn saff gyda saith o rai eraill pan ddaeth ef â’r dilyw ar fyd o bobl annuwiol.
6 A thrwy droi dinasoedd Sodom a Gomorra yn lludw, fe wnaeth eu condemnio nhw, gan osod patrwm ar gyfer pobl annuwiol o’r pethau sydd i ddod.
7 Ac fe achubodd y dyn cyfiawn Lot, a oedd yn hynod o ddigalon oherwydd bod y bobl ddigyfraith yn ymddwyn heb gywilydd*—
8 oherwydd ddydd ar ôl dydd roedd y dyn cyfiawn hwnnw yn poenydio ei enaid* cyfiawn ei hun oherwydd y gweithredoedd digyfraith roedd ef yn eu gweld ac yn eu clywed tra oedd yn byw yn eu plith nhw.
9 Felly mae Jehofa’n* gwybod sut i achub pobl sydd â defosiwn duwiol rhag eu treialon, ond hefyd sut i neilltuo pobl anghyfiawn ar gyfer cael eu dinistrio ar ddydd y farn,
10 yn enwedig y rhai sy’n ceisio llygru cnawd pobl eraill ac sy’n casáu awdurdod.
Yn hy ac yn bengaled, dydyn nhw ddim yn ofni siarad yn sarhaus am rai gogoneddus,
11 ond dydy angylion, er bod ganddyn nhw fwy o nerth a grym, ddim yn dod ag unrhyw gyhuddiad yn eu herbyn nhw gan ddefnyddio geiriau cas, a hynny allan o barch at* Jehofa.
12 Ond mae’r dynion hyn yn siarad yn gas am bethau dydyn nhw ddim yn eu deall, maen nhw fel anifeiliaid sydd ddim yn gallu rhesymu ac sy’n gweithredu wrth reddf ac sydd wedi eu geni i gael eu dal a’u dinistrio. Bydd eu ffordd ddinistriol o fyw yn dod â dinistr arnyn nhw,
13 a byddan nhw’n dioddef niwed yn wobr am eu ffordd niweidiol o fyw.
Maen nhw’n cael pleser o ymgolli mewn bywyd moethus, hyd yn oed yn ystod y dydd. Maen nhw fel staen sy’n gwneud y gynulleidfa’n fudr ac maen nhw wrth eu boddau â’u dysgeidiaethau twyllodrus tra’u bod nhw’n gwledda gyda chi.
14 Mae eu llygaid yn llawn godineb ac maen nhw’n methu stopio pechu, ac maen nhw’n denu rhai* ansefydlog. Mae eu calonnau wedi cael eu hyfforddi i fod yn farus. Plant melltigedig ydyn nhw.
15 Ar ôl cefnu ar y llwybr syth, maen nhw wedi cael eu harwain ar gyfeiliorn. Maen nhw wedi dilyn llwybr Balaam fab Beor, a oedd wrth ei fodd â’r gwobr sy’n dod o ddrygioni,
16 ond fe gafodd ei geryddu am iddo droseddu yn erbyn yr hyn a oedd yn iawn. Fe wnaeth anifail gwaith, a oedd yn siarad â llais dynol, rwystro ffordd wallgof y proffwyd.
17 Ffynhonnau heb ddŵr ydyn nhw a niwloedd sy’n cael eu gyrru gan storm wyllt, ac mae’r tywyllwch mwyaf du wedi cael ei neilltuo ar eu cyfer nhw.
18 Maen nhw’n brolio, ond datganiadau gwag ydy eu geiriau. Drwy apelio at chwantau’r cnawd a thrwy ymddwyn heb gywilydd,* maen nhw’n denu pobl sydd newydd ffoi rhag y rhai sy’n byw mewn ffordd anghywir.
19 Maen nhw’n addo rhyddid iddyn nhw, ond maen nhw eu hunain yn gaethweision i lygredd; oherwydd pan fydd unrhyw un yn cael ei drechu gan rywun* arall, mae’n gaethwas iddo.
20 Yn sicr, os ar ôl iddyn nhw ffoi rhag budreddi’r byd drwy wybodaeth gywir am Iesu Grist, yr Arglwydd ac Achubwr, maen nhw’n ymwneud unwaith eto â’r union bethau hyn ac yn cael eu trechu, yna bydd eu cyflwr yn waeth ar y diwedd nag yr oedd ar y cychwyn.
21 Fe fyddai wedi bod yn well iddyn nhw petasen nhw heb ddod i wybod yn iawn am lwybr cyfiawnder yn hytrach na gwybod amdano a throi i ffwrdd oddi wrth y gorchymyn sanctaidd roedden nhw wedi ei dderbyn.
22 Mae’r ddihareb yn wir yn eu hachos nhw: “Mae’r ci wedi mynd yn ôl at ei gyfog ei hun, ac mae’r mochyn a gafodd ei olchi wedi mynd yn ôl i rolio yn y mwd.”