Actau’r Apostolion 1:1-26

  • Cyfarchion at Theoffilus (1-5)

  • Tystion i ben draw’r byd (6-8)

  • Iesu’n mynd i fyny i’r nef (9-11)

  • Disgyblion yn ymgynnull yn unfryd (12-14)

  • Mathias yn cael ei ddewis i gymryd lle Jwdas (15-26)

1  Yn y llyfr cyntaf, O Theoffilus, ysgrifennais am yr holl bethau y dechreuodd Iesu eu gwneud a’u dysgu 2  hyd y dydd y cymerwyd ef i fyny, ar ôl iddo roi cyfarwyddiadau drwy’r ysbryd glân i’r apostolion roedd ef wedi eu dewis. 3  Ar ôl iddo ddioddef, fe ddangosodd iddyn nhw ei fod yn fyw drwy lawer o arwyddion sicr. Cafodd ei weld ganddyn nhw dros 40 diwrnod, ac roedd yn siarad am Deyrnas Dduw. 4  Tra oedd yn cwrdd â nhw, fe wnaeth eu gorchymyn nhw: “Peidiwch â gadael Jerwsalem, ond parhewch i ddisgwyl am yr hyn y mae’r Tad wedi ei addo, ac a glywsoch chi gen i; 5  oherwydd roedd Ioan, yn wir, yn bedyddio â dŵr, ond fe fyddwch chi’n cael eich bedyddio â’r ysbryd glân ymhen ychydig ddyddiau ar ôl hyn.” 6  Felly, ar ôl iddyn nhw ddod ynghyd, dyma nhw’n gofyn iddo: “Arglwydd, ai dyma’r adeg rwyt ti’n mynd i adfer y deyrnas i Israel?” 7  Dywedodd ef wrthyn nhw: “Does dim rhaid ichi wybod yr amseroedd na’r tymhorau, oherwydd dim ond y Tad sydd â’r awdurdod i benderfynu hynny. 8  Ond byddwch chi’n cael nerth pan fydd yr ysbryd glân yn dod arnoch chi, a byddwch chi’n dystion i mi yn Jerwsalem, yn holl Jwdea a Samaria, ac i ben draw’r byd.”* 9  Ar ôl iddo ddweud y pethau hyn, tra oedden nhw’n edrych, cafodd ei godi i fyny a dyma gwmwl yn ei gymryd allan o’u golwg. 10  Ac fel roedden nhw’n syllu tua’r awyr tra oedd ef yn mynd i fyny, yn fwyaf sydyn dyma ddau ddyn mewn dillad gwyn yn sefyll wrth eu hymyl 11  ac yn dweud: “Chi ddynion o Galilea, pam rydych chi’n sefyll yn edrych tua’r awyr? Bydd yr Iesu hwn a gafodd ei gymryd i fyny oddi wrthoch chi i’r awyr yn dod yn yr un modd ag y gwelsoch chi ef yn mynd i’r awyr.” 12  Yna fe ddychwelon nhw i Jerwsalem o’r mynydd sy’n cael ei alw Mynydd yr Olewydd, dim ond taith o ddiwrnod saboth oddi yno. 13  Pan gyrhaeddon nhw, aethon nhw i fyny i’r ystafell uchaf lle roedden nhw’n aros. Roedd Pedr yno yn ogystal â Ioan ac Iago ac Andreas, Philip a Tomos, Bartholomeus a Mathew, Iago fab Alffeus, a Simon yr un selog, a Jwdas fab Iago. 14  Yn unfryd, roedd y rhain i gyd yn dyfalbarhau mewn gweddi, gyda rhai merched,* Mair mam Iesu, a’i frodyr. 15  Yn ystod y dyddiau hynny, cododd Pedr ar ei draed ymysg y brodyr (cyfanswm y bobl oedd tua 120) a dweud: 16  “Ddynion, frodyr, roedd yn rhaid cyflawni’r ysgrythur a gafodd ei rhagfynegi gan yr ysbryd glân drwy Dafydd am Jwdas, yr un a wnaeth arwain y rhai a arestiodd Iesu. 17  Oherwydd roedd ef wedi cael ei gyfri yn un ohonon ni ac fe gafodd ran yn y weinidogaeth hon. 18  (Gwnaeth yr union ddyn hwn brynu cae â’r tâl am ei anghyfiawnder, ac ar ôl iddo syrthio ar ei wyneb, byrstiodd ei gorff* a thywalltodd* ei berfedd i gyd allan. 19  Daeth holl drigolion Jerwsalem i wybod am hyn, ac felly galwyd y cae hwnnw yn eu hiaith nhw Aceldama, hynny yw, “Maes y Gwaed.”) 20  Oherwydd y mae’n ysgrifenedig yn llyfr y Salmau, ‘Gad i’r lle mae’n cartrefu ynddo ddod yn anialwch, heb neb yn byw ynddo’ a, ‘Gad i rywun arall gymryd ei aseiniad fel arolygwr.’ 21  Felly, o’r dynion a oedd yn gwmni i ni yn ystod yr holl amser yr oedd yr Arglwydd Iesu yn weithgar yn ein plith, 22  gan ddechrau o’i fedydd gan Ioan hyd y dydd y cafodd ef ei gymryd i fyny oddi wrthon ni, mae’n rhaid i un o’r dynion hyn ddod yn dyst gyda ni o’i atgyfodiad.” 23  Felly dyma nhw’n cynnig dau, Joseff a oedd yn cael ei alw Barsabas, a oedd hefyd yn dwyn yr enw Jwstus, a Mathias. 24  Yna dyma nhw’n gweddïo ac yn dweud: “Ti, O Jehofa,* sy’n adnabod calonnau pawb, dangosa pa un o’r ddau ddyn hyn rwyt ti wedi ei ddewis 25  i dderbyn y weinidogaeth a’r apostoliaeth y gwnaeth Jwdas gefnu arnyn nhw er mwyn mynd ei ffordd ei hun.” 26  Felly dyma nhw’n bwrw coelbren arnyn nhw, a syrthiodd y coelbren ar Mathias ac fe gafodd ei gyfri* gyda’r 11 apostol.

Troednodiadau

Neu “i’r rhan bellaf o’r ddaear.”
Neu “menywod.”
Neu “rhwygodd yn ei ganol.”
Neu “ac arllwysodd.”
Gweler Geirfa, “Jehofa.”
Neu “ei restru,” hynny yw, ei ystyried yr un fath â’r 11 arall.