At yr Effesiaid 2:1-22
2 Ymhellach, fe gawsoch chi fywyd gan Dduw, er roeddech chi’n farw yn eich camweddau a’ch pechodau,
2 sef y pethau hynny roeddech chi ar un adeg yn cerdded ynddyn nhw yn ôl system* y byd hwn, yn ôl rheolwr awdurdod yr awyr, yr ysbryd sydd nawr ar waith ym meibion anufudd-dod.
3 Yn wir, ymhlith y rhai hynny roedden ni i gyd ar un adeg yn ymddwyn yn ôl chwantau ein cnawd, yn gwneud ewyllys y cnawd ac ewyllys ein meddyliau, ac roedden ni, o ran ein natur, yn blant a fyddai’n profi dicter Duw yn union fel y lleill.
4 Ond gan fod Duw yn gyfoethog yn ei drugaredd, oherwydd ei gariad mawr tuag aton ni,
5 dyma’n ein gwneud ni’n fyw gyda’r Crist, hyd yn oed pan oedden ni’n farw mewn camweddau—trwy garedigrwydd rhyfeddol rydych chi wedi cael eich achub.
6 Ar ben hynny, fe wnaeth ein codi ni gydag ef a’n gosod ni i eistedd gydag ef yn y llefydd nefol mewn undod â Christ Iesu,
7 fel y gallai ef, yn y byd newydd sy’n dod,* ddangos cyfoeth aruthrol ei garedigrwydd rhyfeddol yn ei haelioni tuag aton ni mewn undod â Christ Iesu.
8 Oherwydd y caredigrwydd rhyfeddol hwn, rydych chi wedi cael eich achub drwy ffydd, ac nid chi sydd wedi gwneud hyn; yn hytrach, mae’n rhodd gan Dduw.
9 Na, nid yw’n dod o ganlyniad i’ch gweithredoedd, felly does gan neb reswm dros frolio.
10 Gwaith dwylo Duw ydyn ni a chawson ni ein creu mewn undod â Christ Iesu ar gyfer gweithredoedd da y trefnodd Duw ymlaen llaw i ni eu gwneud.
11 Felly, cofiwch eich bod chi, bobl y cenhedloedd o ran y cnawd, ar un adeg wedi cael eich galw’n “ddienwaediad” gan y rhai a oedd yn cael eu galw’n “enwaediad,” sy’n cael ei wneud yn y cnawd gan ddwylo dynol.
12 Bryd hynny roeddech chi heb Grist, yn bell i ffwrdd o wlad Israel, a doeddech chi ddim yn rhan o gyfamodau’r addewid; doedd gynnoch chi ddim gobaith ac roeddech chi heb Dduw yn y byd.
13 Ond nawr eich bod chi mewn undod â Christ Iesu, rydych chi, y rhai a oedd ar un adeg yn bell i ffwrdd, wedi dod yn agos drwy waed y Crist.
14 Oherwydd ef ydy ein heddwch ni, yr un a wnaeth y ddau grŵp yn un ac a chwalodd y wal a oedd yn gwahanu’r ddau grŵp.
15 Drwy gyfrwng ei gnawd, fe wnaeth ddileu’r elyniaeth, Cyfraith Moses a oedd yn cynnwys deddfau, er mwyn gwneud y ddau grŵp sydd mewn undod ag ef yn un dyn newydd ac er mwyn gwneud heddwch,
16 ac i gymodi yn llwyr y ddau grŵp o bobl mewn un corff i Dduw drwy’r stanc dienyddio,* oherwydd roedd ef wedi lladd yr elyniaeth drwy gyfrwng ei farwolaeth.
17 Ac fe ddaeth a chyhoeddi’r newyddion da am heddwch i chi, y rhai a oedd yn bell i ffwrdd, a heddwch i’r rhai sy’n agos,
18 oherwydd trwyddo ef mae gynnon ni, y ddau grŵp, ryddid i weddïo ar y Tad drwy gyfrwng yr un ysbryd glân.
19 Felly dydych chi ddim yn bobl ddieithr ac estron bellach, ond rydych chi’n gyd-ddinasyddion â’r rhai sanctaidd ac yn aelodau o deulu Duw,
20 ac rydych chi wedi cael eich adeiladu ar sylfaen yr apostolion a’r proffwydi; a Christ Iesu ei hun ydy’r garreg gornel sylfaenol.
21 Mewn undod ag ef, mae’r adeilad cyfan a’i holl rannau wedi eu cysylltu’n dda â’i gilydd ac yn codi’n deml sanctaidd ar gyfer Jehofa.*
22 Mewn undod ag ef, rydych chithau hefyd yn cael eich adeiladu gyda’ch gilydd i fod yn rhywle i Dduw fyw drwy ei ysbryd.
Troednodiadau
^ Neu “ffordd.”