Yn Ôl Ioan 1:1-51
1 Yn y dechreuad roedd y Gair yn bodoli, ac roedd y Gair gyda Duw, ac roedd y Gair yn dduw.*
2 Roedd hwn gyda Duw yn y dechreuad.
3 Daeth pob peth i fodolaeth drwyddo ef, a hebddo ef ni ddaeth hyd yn oed un peth i fodolaeth.
Yr hyn a ddaeth i fodolaeth
4 drwyddo ef oedd bywyd, a’r bywyd oedd goleuni dynion.
5 Ac mae’r goleuni yn disgleirio yn y tywyllwch, ond dydy’r tywyllwch ddim wedi ei ddiffodd.
6 Daeth dyn a gafodd ei anfon i gynrychioli Duw; Ioan oedd ei enw.
7 Daeth y dyn hwn fel tyst, er mwyn tystiolaethu am y goleuni, er mwyn i bobl o bob math gredu drwyddo ef.
8 Nid ef oedd y goleuni hwnnw, ond fe ddaeth i dystiolaethu am y goleuni hwnnw.
9 Roedd y gwir oleuni sy’n goleuo pob math o ddynion ar fin dod i’r byd.
10 Roedd ef yn y byd, a daeth y byd i fodolaeth drwyddo ef, ond doedd y byd ddim yn ei adnabod.
11 Fe ddaeth i’w wlad ei hun, ond ni wnaeth ei bobl ei hun ei dderbyn.
12 Ond, fe roddodd awdurdod i bawb a wnaeth ei dderbyn, er mwyn iddyn nhw ddod yn blant i Dduw, oherwydd eu bod nhw’n ymarfer ffydd yn ei enw.
13 Ac fe gawson nhw eu geni, nid o waed nac o ewyllys cnawdol nac o ewyllys dyn, ond o Dduw.
14 Felly daeth y Gair yn gnawd a byw yn ein plith ni, ac fe welson ni ei ogoniant, gogoniant mae mab unig-anedig yn ei dderbyn oddi wrth dad; ac roedd yn llawn ffafr Duw* a gwirionedd.
15 (Tystiolaethodd Ioan amdano, yn wir, fe waeddodd: “Dyma’r un y gwnes i ddweud amdano, ‘Mae’r un sy’n dod ar fy ôl i wedi camu o fy mlaen i, oherwydd ei fod wedi bodoli cyn i mi fodoli.’”)
16 Oherwydd ei fod yn llawn caredigrwydd rhyfeddol, rydyn ni i gyd wedi derbyn caredigrwydd rhyfeddol ar ben caredigrwydd rhyfeddol.
17 Oherwydd bod y Gyfraith wedi cael ei rhoi drwy Moses, daeth y caredigrwydd rhyfeddol a’r gwir drwy Iesu Grist.
18 Does yr un dyn wedi gweld Duw ar unrhyw adeg; y duw unig-anedig sydd wrth ochr y Tad ydy’r un sy’n esbonio pwy ydy Ef.
19 Dyma’r dystiolaeth a roddodd Ioan pan wnaeth yr Iddewon anfon offeiriaid a Lefiaid o Jerwsalem i ofyn iddo: “Pwy wyt ti?”
20 Ac fe wnaeth ef gyfaddef y peth ac ni wnaeth ei wadu, gan ddweud: “Nid fi ydy’r Crist.”
21 A dyma nhw’n gofyn iddo: “Beth, felly? Ai Elias wyt ti?” Atebodd ef: “Nage.” “Ai’r Proffwyd wyt ti?” Ac atebodd: “Nage!”
22 Felly dywedon nhw wrtho: “Pwy wyt ti? Dyweda wrthon ni er mwyn inni allu ateb y rhai a wnaeth ein hanfon ni. Beth rwyt ti’n ei ddweud amdanat ti dy hun?”
23 Dywedodd yntau: “Llais rhywun yn gweiddi yn yr anialwch ydw i, ‘Gwnewch ffordd Jehofa* yn syth,’ yn union fel y dywedodd y proffwyd Eseia.”
24 Nawr, roedd y rhai a oedd yn holi wedi cael eu hanfon gan y Phariseaid.
25 Felly dyma nhw’n ei holi a dweud wrtho: “Pam, felly, rwyt ti’n bedyddio os nad y Crist nac Elias na’r Proffwyd wyt ti?”
26 Atebodd Ioan: “Rydw i’n bedyddio mewn dŵr. Mae ’na un yn sefyll yn eich plith chi dydych chi ddim yn ei adnabod,
27 yr un sy’n dod ar fy ôl i, a dydw i ddim yn deilwng i ddatod carrai* ei sandal.”
28 Digwyddodd y pethau hyn ym Methania, yr ochr draw i’r Iorddonen, lle roedd Ioan yn bedyddio.
29 Y diwrnod wedyn gwelodd ef Iesu yn dod tuag ato, a dywedodd ef: “Dyma Oen Duw sy’n cymryd pechod y byd i ffwrdd!
30 Dyma’r un y gwnes i ddweud amdano: ‘Y tu ôl imi mae dyn yn dod sydd wedi camu o fy mlaen i, oherwydd ei fod wedi bodoli cyn i mi fodoli.’
31 Doeddwn i hyd yn oed ddim yn ei adnabod, ond y rheswm rydw i’n bedyddio mewn dŵr ydy er mwyn iddo ef gael ei amlygu i Israel.”
32 Hefyd, tystiolaethodd Ioan drwy ddweud: “Gwyliais yr ysbryd yn dod i lawr fel colomen o’r nef, ac fe arhosodd arno.
33 Doeddwn i hyd yn oed ddim yn ei adnabod, ond dyma’r union Un a wnaeth fy anfon i i fedyddio mewn dŵr yn dweud wrtho i: ‘Pwy bynnag rwyt ti’n ei weld a’r ysbryd yn dod i lawr arno ac yn aros arno, hwn ydy’r un sy’n bedyddio â’r ysbryd glân.’
34 Ac rydw i wedi gweld hynny, ac rydw i wedi rhoi tystiolaeth mai hwn ydy Mab Duw.”
35 Y diwrnod wedyn, roedd Ioan yn sefyll yno unwaith eto gyda dau o’i ddisgyblion,
36 a thra oedd yn edrych ar Iesu yn cerdded, dywedodd: “Dyma Oen Duw!”
37 Ar ôl i’r ddau ddisgybl ei glywed yn dweud hyn, dyma nhw’n dilyn Iesu.
38 Yna trodd Iesu, a’u gweld nhw’n dilyn, a dywedodd wrthyn nhw: “Am beth rydych chi’n chwilio?” Dywedon nhw wrtho: “Rabbi (sy’n golygu, o’i gyfieithu, “Athro”), lle rwyt ti’n aros?”
39 Dywedodd yntau wrthyn nhw: “Dewch i weld.” Felly aethon nhw i weld lle roedd yn aros, ac arhoson nhw gydag ef y diwrnod hwnnw; roedd hi tua’r ddegfed awr.*
40 Roedd Andreas, brawd Simon Pedr, yn un o’r ddau a wnaeth glywed yr hyn a ddywedodd Ioan a dilyn Iesu.
41 Yn gyntaf fe ddaeth o hyd i’w frawd Simon a dywedodd wrtho: “Rydyn ni wedi dod o hyd i’r Meseia” (sy’n golygu, o’i gyfieithu, “Crist”),
42 a dyma’n ei arwain at Iesu. Pan edrychodd Iesu arno, dywedodd: “Simon wyt ti, mab Ioan; byddi di’n cael dy alw’n Ceffas” (sy’n cael ei gyfieithu “Pedr”).
43 Y diwrnod wedyn, roedd Iesu eisiau gadael am Galilea. Yna daeth Iesu o hyd i Philip a dywedodd wrtho: “Dilyna fi.”
44 Nawr roedd Philip yn dod o Bethsaida, o ddinas Andreas a Pedr.
45 Daeth Philip o hyd i Nathanael a dywedodd wrtho: “Rydyn ni wedi dod o hyd i’r un y gwnaeth Moses, yn y Gyfraith, a’r Proffwydi ysgrifennu amdano: Iesu, fab Joseff, o Nasareth.”
46 Ond dywedodd Nathanael wrtho: “A all unrhyw beth da ddod allan o Nasareth?” Dywedodd Philip wrtho: “Tyrd i weld.”
47 Gwelodd Iesu Nathanael yn dod tuag ato a meddai amdano: “Dyma Israeliad sydd yn wir heb unrhyw dwyll ynddo.”
48 Dywedodd Nathanael wrtho: “Sut rwyt ti’n fy adnabod i?” Atebodd Iesu: “Cyn i Philip dy alw di, tra oeddet ti o dan y goeden ffigys, gwnes i dy weld di.”
49 Atebodd Nathanael: “Rabbi, ti ydy Mab Duw, ti ydy Brenin Israel.”
50 Dyma Iesu’n ateb: “Wyt ti’n credu oherwydd imi ddweud fy mod i wedi dy weld di o dan y goeden ffigys? Byddi di’n gweld pethau sy’n llawer mwy na’r rhain.”
51 Yna dywedodd wrtho: “Yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi ddynion, byddwch chi’n gweld y nef yn agor ac angylion Duw yn mynd i fyny ac yn dod i lawr at Fab y dyn.”
Troednodiadau
^ Neu “yn ddwyfol.”
^ Neu “caredigrwydd rhyfeddol.”
^ Neu “lasyn.”
^ Hynny yw, tua 4:00 p.m.