Yn Ôl Ioan 10:1-42
10 “Yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi, mae’r un sydd ddim yn dod i mewn i’r gorlan drwy’r drws ond sy’n dringo i mewn yn lleidr sy’n dwyn popeth.
2 Ond yr un sy’n dod i mewn drwy’r drws ydy bugail y defaid.
3 Mae ceidwad y drws yn agor i’r un hwnnw, ac mae’r defaid yn gwrando ar ei lais. Mae’n galw ei ddefaid ei hun wrth eu henwau ac yn eu harwain nhw allan.
4 Ar ôl iddo ddod â’i holl ddefaid ei hun allan, mae’n mynd o’u blaenau nhw, ac mae’r defaid yn ei ddilyn, oherwydd eu bod nhw’n adnabod ei lais.
5 Fyddan nhw ddim ar unrhyw gyfri yn dilyn llais rhywun dieithr ond fe fyddan nhw’n ffoi oddi wrtho, oherwydd dydyn nhw ddim yn adnabod lleisiau pobl ddieithr.”
6 Dywedodd Iesu’r ddameg hon wrthyn nhw, ond doedden nhw ddim yn deall beth roedd yn ei ddweud wrthyn nhw.
7 Felly dywedodd Iesu eto: “Yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi, fi ydy’r drws i’r defaid fynd drwyddo.
8 Mae’r holl rai sydd wedi dod yn fy lle i yn lladron sy’n dwyn popeth; ond dydy’r defaid ddim wedi gwrando arnyn nhw.
9 Fi ydy’r drws; bydd pwy bynnag sy’n mynd i mewn drwyddo i yn cael ei achub, a bydd yr un hwnnw’n mynd i mewn ac allan ac yn dod o hyd i borfa.
10 Dydy’r lleidr ddim yn dod oni bai ei fod eisiau dwyn a lladd a dinistrio. Rydw i wedi dod er mwyn iddyn nhw gael bywyd hir.
11 Fi ydy’r bugail da; mae’r bugail da yn aberthu ei fywyd er mwyn y defaid.
12 Dydy’r dyn sydd wedi cael ei gyflogi ddim yn fugail a dydy’r defaid ddim yn perthyn iddo. Mae’n gweld y blaidd yn dod ac mae’n cefnu ar y defaid ac yn ffoi—ac mae’r blaidd yn eu cipio nhw ac yn eu gyrru nhw ar chwâl—
13 oherwydd mae’n gweithio er mwyn cael ei gyflog a does dim ots ganddo am y defaid.
14 Fi ydy’r bugail da. Rydw i’n adnabod fy nefaid ac mae fy nefaid yn fy adnabod i,
15 yn union fel mae’r Tad yn fy adnabod i ac rydw innau’n adnabod y Tad; ac rydw i’n aberthu fy mywyd er mwyn y defaid.
16 “Ac mae gen i ddefaid eraill sydd ddim yn rhan o’r gorlan hon; mae’n rhaid imi hel y defaid hynny hefyd, a byddan nhw’n gwrando ar fy llais, a byddan nhw’n dod yn un praidd o dan un bugail.
17 Dyma pam mae’r Tad yn fy ngharu i, oherwydd rydw i’n aberthu fy mywyd, er mwyn imi allu ei dderbyn eto.
18 Does yr un dyn yn ei gymryd oddi arna i, ond rydw i’n ei aberthu o’m gwirfodd. Mae gen i’r awdurdod i’w aberthu, ac mae gen i’r awdurdod i’w dderbyn eto. Fe ges i’r gorchymyn hwn gan fy Nhad.”
19 Unwaith eto, roedd ’na anghytuno ymhlith yr Iddewon oherwydd y geiriau hyn.
20 Roedd llawer ohonyn nhw’n dweud: “Mae ’na gythraul ynddo ac mae wedi mynd yn wallgof. Pam rydych chi’n gwrando arno?”
21 Roedd eraill yn dweud: “Nid geiriau dyn a chythraul ynddo ydy’r rhain. Ydy cythraul yn gallu agor llygaid pobl ddall?”
22 Yr adeg honno, roedd Gŵyl y Cysegru yn digwydd yn Jerwsalem. Roedd hyn yn ystod y gaeaf,
23 ac roedd Iesu’n cerdded yn y deml yng Ngholofnres Solomon.
24 Yna dyma’r Iddewon yn ei amgylchynu ac yn dechrau dweud wrtho: “Am faint rwyt ti am ein cadw ni ar bigau drain? Os mai ti ydy’r Crist, dyweda wrthon ni’n blaen.”
25 Atebodd Iesu: “Fe wnes i ddweud wrthoch chi, ond eto dydych chi ddim yn credu. Mae’r gweithredoedd rydw i’n eu gwneud yn enw fy Nhad yn tystiolaethu amdana i.
26 Ond dydych chi ddim yn credu, oherwydd nid fy nefaid i ydych chi.
27 Mae fy nefaid i yn gwrando ar fy llais, ac rydw i’n eu hadnabod nhw, ac maen nhw’n fy nilyn i.
28 Rydw i’n rhoi bywyd tragwyddol iddyn nhw, ac ni fyddan nhw byth yn cael eu dinistrio ar unrhyw gyfri, ac ni fydd neb yn eu cipio nhw allan o fy llaw.
29 Mae’r hyn mae fy Nhad wedi ei roi imi yn fwy gwerthfawr na phob peth arall, ac ni all neb eu cipio nhw allan o law’r Tad.
30 Rydw i a’r Tad yn un.”*
31 Unwaith eto, dyma’r Iddewon yn codi cerrig er mwyn ei labyddio.
32 Atebodd Iesu nhw: “Rydw i wedi dangos llawer o weithredoedd da ichi oddi wrth y Tad. Am ba un o’r gweithredoedd hynny rydych chi’n fy llabyddio i?”
33 Atebodd yr Iddewon: “Rydyn ni’n dy labyddio di, nid am iti wneud gweithred dda, ond am iti gablu; oherwydd rwyt ti, er dy fod ti’n ddyn, yn dy wneud dy hun yn dduw.”
34 Atebodd Iesu: “Onid ydy eich Cyfraith chi yn dweud, ‘Dywedais: “Rydych chi’n dduwiau”’?*
35 Os gwnaeth Duw alw’n ‘dduwiau’ y rhai y mae gair Duw yn eu condemnio—ac eto dydy’r ysgrythurau ddim yn gallu cael eu newid—
36 ydych chi’n dweud wrtho i, yr un a gafodd ei sancteiddio a’i anfon i mewn i’r byd gan y Tad, ‘Rwyt ti’n cablu,’ oherwydd dywedais i, ‘Mab Duw ydw i’?
37 Os dydw i ddim yn gwneud gweithredoedd fy Nhad, peidiwch â fy nghredu i.
38 Ond os ydw i’n eu gwneud nhw, er nad ydych chi’n fy nghredu i, credwch y gweithredoedd, er mwyn ichi allu dod i wybod a pharhau i wybod bod y Tad mewn undod â mi a fy mod innau mewn undod â’r Tad.”
39 Felly ceision nhw ei arestio unwaith eto, ond fe wnaeth ddianc o’u gafael nhw.
40 Ac fe aeth i ffwrdd unwaith eto i ochr arall yr Iorddonen i le roedd Ioan yn bedyddio yn y dyddiau cynnar, ac fe arhosodd yno.
41 A daeth llawer o bobl ato a dechreuon nhw ddweud: “Ni wnaeth Ioan unrhyw arwyddion, ond roedd yr holl bethau a ddywedodd Ioan am y dyn yma yn wir.”
42 A dyma lawer o bobl yn rhoi ffydd ynddo yn y lle hwnnw.