Yn Ôl Ioan 14:1-31

  • Iesu, yr unig ffordd i fynd at y Tad (1-14)

    • ‘Fi ydy’r ffordd, y gwir, a’r bywyd’ (6)

  • Iesu’n addo’r ysbryd glân (15-31)

    • “Mae’r Tad yn fwy na mi” (28)

14  “Peidiwch â gadael i’ch calonnau gael eu cynhyrfu. Dylech chi ymarfer ffydd yn Nuw; ac ymarfer ffydd hefyd yno i. 2  Yn nhŷ fy Nhad mae ’na lawer o lefydd i aros.* Neu fel arall, fe fyddwn i wedi dweud wrthoch chi, oherwydd fy mod i’n mynd i baratoi lle ar eich cyfer chi. 3  Hefyd, os ydw i’n mynd i baratoi lle ar eich cyfer chi, fe fydda i’n dod eto ac yn mynd â chi i le rydw i, er mwyn i chithau hefyd fod lle rydw i. 4  Ac rydych chi’n gwybod y ffordd i le rydw i’n mynd.” 5  Dywedodd Tomos wrtho: “Arglwydd, dydyn ni ddim yn gwybod i le rwyt ti’n mynd. Sut rydyn ni’n gallu gwybod y ffordd?” 6  Dywedodd Iesu wrtho: “Fi ydy’r ffordd a’r gwir a’r bywyd. Does neb yn dod at y Tad heblaw trwyddo i. 7  Petasech chi ddynion wedi fy adnabod i, fe fyddech chi wedi adnabod fy Nhad hefyd; o’r foment hon rydych chi’n ei adnabod ef ac wedi ei weld.” 8  Dywedodd Philip wrtho: “Arglwydd, dangosa’r Tad inni, a bydd hynny’n ddigon inni.” 9  Dywedodd Iesu wrtho: “Hyd yn oed ar ôl imi fod gyda chi ddynion am amser mor hir, Philip, wyt ti heb ddod i fy adnabod i? Mae pwy bynnag sydd wedi fy ngweld i wedi gweld y Tad hefyd. Sut gelli di ddweud, ‘Dangosa’r Tad inni’? 10  Onid wyt ti’n fy nghredu i fy mod i mewn undod â’r Tad a bod y Tad mewn undod â minnau? Dydw i ddim yn dweud y pethau rydw i’n eu dweud wrthoch chi ar fy liwt fy hun, ond y Tad sy’n aros mewn undod â mi sy’n gwneud ei weithredoedd. 11  Credwch chi fi fy mod i mewn undod â’r Tad a’r Tad mewn undod â mi; os ddim, credwch oherwydd y gweithredoedd eu hunain. 12  Yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi, bydd pwy bynnag sy’n ymarfer ffydd yno i hefyd yn gwneud y gweithredoedd rydw i’n eu gwneud; a bydd ef yn gwneud gweithredoedd mwy na’r rhain, oherwydd fy mod i’n mynd at y Tad. 13  Hefyd, beth bynnag rydych chi’n ei ofyn yn fy enw i, fe wna i hynny, er mwyn i’r Tad gael ei ogoneddu drwy gyfrwng y Mab. 14  Os gofynnwch chi unrhyw beth yn fy enw i, fe wna i hynny. 15  “Os ydych chi’n fy ngharu i, fe fyddwch chi’n cadw fy ngorchmynion. 16  Ac fe wna i ofyn i’r Tad a bydd ef yn rhoi ichi helpwr* arall i fod gyda chi am byth, 17  ysbryd y gwir, rhywbeth na all y byd ei dderbyn, oherwydd dydy’r byd ddim yn ei weld nac yn ei adnabod. Rydych chi’n ei adnabod, oherwydd ei fod yn aros gyda chi a’i fod ynoch chi. 18  Wna i ddim eich gadael chi ar eich pennau eich hunain.* Rydw i’n dod atoch chi. 19  Cyn bo hir fydd y byd ddim yn fy ngweld i mwyach, ond fe fyddwch chi’n fy ngweld i, oherwydd fy mod i’n byw ac fe fyddwch chithau’n byw. 20  Yn y dydd hwnnw fe fyddwch chi’n gwybod fy mod i mewn undod â fy Nhad a’ch bod chi mewn undod â mi a fy mod i mewn undod â chithau. 21  Pwy bynnag sy’n derbyn fy ngorchmynion i ac sy’n eu cadw nhw ydy’r un sy’n fy ngharu i. A bydd pwy bynnag sy’n fy ngharu i yn cael ei garu gan fy Nhad, a bydda i’n ei garu ac yn fy amlygu fy hun iddo.” 22  Dywedodd Jwdas, nid Iscariot, wrtho: “Arglwydd, am ba reswm rwyt ti’n bwriadu dy amlygu dy hun i ni ac nid i’r byd?” 23  Atebodd Iesu: “Os ydy rhywun yn fy ngharu i, bydd ef yn cadw fy ngair, a bydd fy Nhad yn ei garu, a byddwn ni’n dod ato ac yn byw gydag ef. 24  Dydy’r sawl sydd ddim yn fy ngharu i ddim yn cadw fy ngeiriau. Nid fy ngair i ydy’r gair rydych chi’n ei glywed, ond mae’n perthyn i’r Tad a wnaeth fy anfon i. 25  “Rydw i wedi dweud y pethau hyn wrthoch chi tra ydw i’n dal gyda chi. 26  Ond bydd yr helpwr, yr ysbryd glân, a fydd yn cael ei anfon yn fy enw i gan y Tad, yn eich dysgu chi bob peth ac yn eich atgoffa chi o’r holl bethau a ddywedais i wrthoch chi. 27  Rydw i’n gadael ichi heddwch; rydw i’n rhoi ichi fy heddwch i. Dydw i ddim yn ei roi fel mae’r byd yn ei roi. Peidiwch â gadael i’ch calonnau gael eu cynhyrfu na gadael iddyn nhw gilio mewn ofn. 28  Fe glywsoch chi fy mod i wedi dweud wrthoch chi, ‘Rydw i’n mynd i ffwrdd ac rydw i’n dod yn ôl atoch chi.’ Petasech chi’n fy ngharu i, fe fyddech chi’n llawenhau fy mod i’n mynd at y Tad, oherwydd mae’r Tad yn fwy na mi. 29  Felly rydw i wedi dweud wrthoch chi cyn iddo ddigwydd, er mwyn ichi gredu pan fydd yn digwydd. 30  Fydda i ddim yn siarad llawer mwy gyda chi, oherwydd mae rheolwr y byd yn dod, a does ganddo ddim gafael arna i.* 31  Ond er mwyn i’r byd wybod fy mod i’n caru’r Tad, rydw i’n gwneud yn union fel mae’r Tad wedi gorchymyn imi. Codwch, gadewch inni fynd oddi yma.

Troednodiadau

Neu “i fyw.”
Neu “rhoi ichi gysurwr.”
Neu “yn amddifad.”
Neu “grym drosto i.”