Yn Ôl Luc 24:1-53

  • Atgyfodiad Iesu (1-12)

  • Ar y ffordd i Emaus (13-35)

  • Iesu’n ymddangos i’r disgyblion (36-49)

  • Iesu’n mynd i fyny i’r nef (50-53)

24  Ond ar ddiwrnod cyntaf yr wythnos, daethon nhw at y beddrod* yn gynnar iawn, gan ddod â’r sbeisys roedden nhw wedi eu paratoi. 2  Ond fe welson nhw fod y garreg wedi cael ei rholio i ffwrdd oddi wrth y beddrod,* 3  a phan aethon nhw i mewn, doedd corff yr Arglwydd Iesu ddim yno. 4  Tra oedden nhw mewn penbleth ynglŷn â hyn, edrycha! roedd dau ddyn mewn dillad llachar yn sefyll wrth eu hochr. 5  Daeth y merched* yn ofnus ac roedden nhw’n edrych ar y llawr, felly dywedodd y dynion wrthyn nhw: “Pam rydych chi’n edrych am yr un sy’n fyw ymhlith y meirw? 6  Dydy ef ddim yma, ond mae wedi cael ei atgyfodi. Cofiwch beth ddywedodd ef wrthoch chi tra oedd ef yn dal yng Ngalilea, 7  gan ddweud bod rhaid i Fab y dyn gael ei roi yn nwylo dynion pechadurus a chael ei ddienyddio ar y stanc ac, ar y trydydd dydd, gael ei atgyfodi.” 8  Yna dyma nhw’n cofio ei eiriau, 9  a daethon nhw yn ôl o’r beddrod* ac adrodd yr holl bethau hyn wrth yr un ar ddeg ac wrth y gweddill i gyd. 10  Mair Magdalen, Joanna, a Mair mam Iago oedden nhw. Hefyd, roedd gweddill y merched* a oedd gyda nhw yn sôn am y pethau hyn wrth yr apostolion. 11  Fodd bynnag, roedd y pethau hyn yn swnio fel nonsens iddyn nhw, ac roedden nhw’n gwrthod credu’r merched.* 12  Ond cododd Pedr a rhedodd at y beddrod,* ac yn plygu i edrych i mewn iddo, ni welodd ddim byd ond y cadachau o liain. Felly aeth ef i ffwrdd yn ceisio deall beth oedd wedi digwydd. 13  Ond edrycha! ar yr un diwrnod, roedd dau ohonyn nhw’n teithio i bentref o’r enw Emaus, tua saith milltir* o Jerwsalem, 14  ac roedden nhw’n sgwrsio â’i gilydd am yr holl bethau oedd wedi digwydd. 15  Nawr tra oedden nhw’n sgwrsio ac yn trafod y pethau hyn, daeth Iesu ei hun atyn nhw a dechreuodd gerdded gyda nhw, 16  ond doedden nhw ddim yn gallu ei adnabod ef. 17  Dywedodd ef wrthyn nhw: “Beth yw’r pethau hyn rydych chi’n dadlau amdanyn nhw ymhlith eich gilydd wrth ichi gerdded?” A dyma nhw’n sefyll yn stond, yn edrych yn drist. 18  Atebodd yr un o’r enw Cleopas drwy ddweud: “A wyt ti’n ddyn dieithr yn byw ar dy ben dy hun yn Jerwsalem heb wybod* am y pethau sydd wedi digwydd yma yn ystod y dyddiau hyn?” 19  Gofynnodd iddyn nhw: “Pa bethau?” Dywedon nhw wrtho: “Y pethau a ddigwyddodd i Iesu o Nasareth, a oedd yn broffwyd nerthol mewn gair a gweithred o flaen Duw a’r holl bobl; 20  a sut gwnaeth ein prif offeiriaid a’n rheolwyr ei roi yn nwylo’r rhai a wnaeth ei ddedfrydu i farwolaeth, a gwnaethon nhw ei hoelio ar y stanc. 21  Ond roedden ni’n gobeithio mai’r dyn hwn oedd yr un oedd yn mynd i ryddhau Israel. Ac yn ogystal â’r holl bethau hyn, heddiw ydy’r trydydd dydd ers i’r pethau hyn ddigwydd. 22  Roedden ni hefyd wedi ein syfrdanu ar ôl clywed yr adroddiad gan rai merched* sy’n ddisgyblion, oherwydd eu bod nhw wedi mynd yn gynnar i’r beddrod* 23  a phan na ddaethon nhw o hyd i’w gorff, dyma nhw’n dod ac yn dweud eu bod nhw wedi gweld angylion yn ymddangos, a dywedodd yr angylion ei fod yn fyw. 24  Yna aeth rhai o’r bobl oedd gyda ni i ffwrdd i’r beddrod,* a’i gael yn union fel dywedodd y merched,* ond ni wnaethon nhw ei weld ef.” 25  Felly dywedodd ef wrthyn nhw: “Chi rai disynnwyr, rydych chi mor araf yn eich calonnau i gredu’r holl bethau mae’r proffwydi wedi eu dweud! 26  Onid oedd yn rhaid i’r Crist ddioddef y pethau hyn a mynd i mewn i’w ogoniant?” 27  Ac yn cychwyn gyda Moses a’r holl Broffwydi, esboniodd iddyn nhw bopeth roedd yr Ysgrythurau yn ei ddweud amdano. 28  O’r diwedd, dyma nhw’n agosáu at y pentref roedden nhw’n teithio iddo, a dywedodd yntau ei fod yn mynd yn ei flaen. 29  Ond dyma nhw’n ei annog i aros, gan ddweud: “Arhosa gyda ni, oherwydd mae hi’n nosi ac mae’r dydd bron â gorffen.” Gyda hynny, aeth i mewn i aros gyda nhw. 30  A thra oedd yn bwyta gyda nhw, cymerodd y bara, ei fendithio, ei dorri, a’i roi iddyn nhw. 31  Ar hynny, cafodd eu llygaid eu hagor yn llwyr ac roedden nhw’n ei adnabod; ond diflannodd ef oddi wrthyn nhw. 32  A dywedon nhw wrth ei gilydd: “Onid oedd ein calonnau ar dân ynon ni tra oedd ef yn siarad â ni ar y ffordd, tra oedd ef yn esbonio’n eglur yr Ysgrythurau inni?”* 33  Ac fe godon nhw yr union awr honno a mynd yn ôl i Jerwsalem, a daethon nhw o hyd i’r un ar ddeg a’r rhai oedd wedi ymgynnull gyda nhw, 34  a nhwthau’n dweud: “Mae’n ffaith fod yr Arglwydd wedi cael ei atgyfodi, ac wedi ymddangos i Simon!” 35  Yna gwnaethon nhw sôn am beth ddigwyddodd ar y ffordd a sut gwnaethon nhw ei adnabod ar ôl iddo dorri’r bara. 36  Tra oedden nhw’n siarad am y pethau hyn, dyma Iesu ei hun yn sefyll yn eu plith a dweud wrthyn nhw: “Heddwch ichi.” 37  Ond oherwydd eu bod nhw wedi dychryn am eu bywydau ac yn ofnus, roedden nhw’n meddwl eu bod nhw’n gweld ysbryd. 38  Felly dywedodd ef wrthyn nhw: “Pam rydych chi wedi cynhyrfu, a pham mae amheuon wedi codi yn eich calonnau? 39  Edrychwch ar fy nwylo a fy nhraed, fi sydd yma; cyffyrddwch â mi a gwelwch, oherwydd does gan ysbryd ddim cnawd ac esgyrn fel sydd gen i.” 40  Ac wrth iddo ddweud hyn, dangosodd iddyn nhw ei ddwylo a’i draed. 41  Ond tra oedden nhw’n dal i wrthod credu oherwydd eu syndod a’u llawenydd pur, dywedodd ef wrthyn nhw: “A oes gynnoch chi rywbeth i’w fwyta yno?” 42  Felly dyma nhw’n rhoi darn o bysgodyn wedi ei rostio iddo, 43  ac fe wnaeth ei gymryd a’i fwyta o flaen eu llygaid. 44  Yna dywedodd ef wrthyn nhw: “Dyma beth ddywedais i wrthoch chi tra oeddwn i’n dal gyda chi, fod rhaid i’r holl bethau a gafodd eu hysgrifennu amdana i yng Nghyfraith Moses ac yn y Proffwydi a’r Salmau gael eu cyflawni.” 45  Yna agorodd ef eu meddyliau’n llawn er mwyn iddyn nhw ddeall ystyr yr Ysgrythurau, 46  a dywedodd ef wrthyn nhw, “Dyma beth sydd wedi cael ei ysgrifennu: Byddai’r Crist yn dioddef ac yn codi o blith y meirw ar y trydydd dydd, 47  ac ar sail ei enw, byddai edifeirwch am faddeuant pechodau yn cael ei bregethu yn y cenhedloedd i gyd—gan ddechrau yn Jerwsalem. 48  Rydych chi am fod yn dystion i’r pethau hyn. 49  Ac edrychwch! rydw i’n anfon atoch chi beth mae fy Nhad wedi ei addo. Ond chithau, arhoswch yn y ddinas nes ichi dderbyn nerth o’r nef.” 50  Yna dyma’n eu harwain nhw allan mor bell â Bethania, a chododd ei ddwylo a’u bendithio nhw. 51  Tra oedd ef yn eu bendithio nhw, gwnaeth ef eu gadael nhw ac fe gafodd ei gymryd i fyny i’r nef. 52  Ac fe wnaethon nhw ymgrymu* o’i flaen a mynd yn ôl i Jerwsalem gyda llawenydd mawr. 53  Ac roedden nhw yn y deml bob dydd, yn moli Duw.

Troednodiadau

Neu “y beddrod coffa.”
Neu “y beddrod coffa.”
Neu “menywod.”
Neu “beddrod coffa.”
Neu “menywod.”
Neu “menywod.”
Neu “beddrod coffa.”
Tua 11 km. Llyth., “60 stadiwm.” Roedd stadiwm yn gyfartal â 185 m (606.95 tr).
Neu efallai, “Ai ti ydy’r unig ymwelydd i Jerwsalem sydd ddim yn gwybod?”
Neu “menywod.”
Neu “beddrod coffa.”
Neu “beddrod coffa.”
Neu “menywod.”
Neu “agor yr Ysgrythurau’n llawn inni?”
Neu “fe wnaethon nhw blygu.”