CÂN 100
Rhowch Groeso Iddynt i’ch Cartref
-
1. Am wers mewn lletygarwch trown at ein Tad—
O’i gariad, rhydd Jehofa i’r drwg a’r da,
Mae Duw’n rhoi haul a glaw,
agored yw ei law,
Mae’n rhoi i bawb yn hael, ac am ddim.
Cawn ninnau roi yn hael, gweithred cariad yw.
Mae rhoi i’r tlawd fel benthyg i’n hannwyl Dduw.
O’n Duw, ein nefol Dad,
y daw eu hesmwythâd—
Drwy law garedig rhywun fel ni.
-
2. Rhown help i’r rhai mewn angen, a phwy a ŵyr,
Ein cariad a all ddenu rhai at y gwir.
Dim ots beth yw eu hiaith,
eu lliw, na’u hil ychwaith,
Rhoi croeso wnawn, a mawr les a wna.
Fel Lydia, d’wedwn, “Dewch i fy nghartref i,
Dewch mewn a gorffwys. Dewch, bwytwch gyda ni.”
Rhoi croeso cynnes wnawn,
i efelychu’n llawn
Drugaredd mawr Jehofa ein Tad.
(Gweler hefyd Act. 16:14, 15; Rhuf. 12:13; 1 Tim. 3:2; Heb. 13:2; 1 Pedr 4:9.)