CÂN 111
Rhesymau Dros Ein Llawenydd
-
1. Mae gennyn ni lu o resymau
Dros ddawnsio a neidio yn llon,
Dros ganu a bloeddio yn llawen,
Hapusrwydd mawr sydd yn ein bron.
Mae gennyn ni sail i’n gorfoledd,
Mae gwreiddiau ein ffydd yng Ngair Duw.
Bob dydd mae nhw’n treiddio yn ddyfnach,
Ger ffrydiau glân rydym yn byw.
Mae llawer yn dod i ymuno,
A rhannu ein llonder a wnawn.
Er gwaethaf pob her ac anhawster,
Yn nyfroedd y gwir llawenhawn.
(CYTGAN)
Moliannwn lawenydd ein Duw,
Ymunwn â’r holl gread byw,
I ganu ei glod, i ganmol ei ddawn,
I ddathlu ei allu a’i rym.
-
2. Ardderchog yw’r holl greadigaeth,
Mor brydferth yw haul bore braf,
Mor hyfryd yw gweld lliwiau’r hydref,
Y gaeaf, y gwanwyn a’r haf.
Hapusrwydd a gawn wrth bregethu
Am Deyrnas, am Frenin, am Grist.
Dedwyddwch fwynhawn o’r anrhydedd
O gael ein hadnabod yn dyst.
Mae bywyd di-dor ar y gorwel,
A gwawrio mae byd newydd sbon.
Bydd haul bendith Duw yn tywynnu’n
Dragwyddol ym mhob calon lon.
(CYTGAN)
Moliannwn lawenydd ein Duw,
Ymunwn â’r holl gread byw,
I ganu ei glod, i ganmol ei ddawn,
I ddathlu ei allu a’i rym.
(Gweler hefyd Deut. 16:15; Esei. 12:6; Ioan 15:11.)