CÂN 116
Grym Caredigrwydd
-
1. Jehofa, tydi sy’n nerthol a chryf,
Di-drai yw d’egni di.
Ond er dy arswydus allu a’th rym,
Duw llawn caredigrwydd wyt ti.
-
2. Mor fwyn yw dy Fab mewn gweithred a gair,
Mor dyner ac mor deg.
Ysgafnu ein beichiau trymion y mae,
Ffrind hynod garedig yw ef.
-
3. Mae cariad caredig Iesu a Duw,
At bawb, drwy’r oesoedd maith,
Yn dangos i ni sut dylem ni fyw
Wrth roi caredigrwydd ar waith!
(Gweler hefyd Mich. 6:8; Math. 11:28-30; Col. 3:12; 1 Pedr 2:3.)