CÂN 118
Rho Inni Fwy o Ffydd
(Luc 17:5)
-
1. Tueddiad calon dyn ers ei blentyndod,
Drygionus yw; a phechu wnawn bob dydd.
Mae magl arall sydd yn medru’n rhwydo,
Oherwydd amherffeithrwydd—diffyg ffydd.
(CYTGAN)
Rho inni fwy o ffydd, Jehofa annwyl,
Rho inni fwy o ffydd, drugarog Dduw,
Rho inni fwy o ffydd, a chyda’n gweithred
A’n gair, dangoswn fod ein ffydd yn fyw.
-
2. Heb ffydd, does neb yn medru’n llawn dy blesio,
Â’n calon credwn y’n gwobrwyo gawn,
A bydd ein ffydd, fel tarian, yn rhoi noddfa—
Yn hy, heb ofni, i’r dyfodol awn.
(CYTGAN)
Rho inni fwy o ffydd, Jehofa annwyl,
Rho inni fwy o ffydd, drugarog Dduw,
Rho inni fwy o ffydd, a chyda’n gweithred
A’n gair, dangoswn fod ein ffydd yn fyw.
(Gweler hefyd Gen. 8:21; Heb. 11:6; 12:1.)