Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CÂN 123

Ymostwng yn Ffyddlon i’r Drefn Theocrataidd

Ymostwng yn Ffyddlon i’r Drefn Theocrataidd

(1 Corinthiaid 14:33)

  1. 1. Pobl Dduw Jehofa sydd ledled y byd

    Yn cyhoeddi’r Deyrnas; gweithio maent ynghyd.

    I’r drefn theocrataidd mae’n rhaid ufuddhau,

    Gweithio’n unol maent heb os nac oni bai.

    (CYTGAN)

    Ymostyngedig, llwyr ymroddedig,

    Teyrngar i drefn ein Duw.

    Gofal a chariad rydd ef i’n gwarchod—

    Haeddu mae ffyddlondeb triw.

  2. 2. Duw a roddodd inni oruchwyliwr call,

    Ac yr ysbryd glân i’n harwain yn ddi-ball.

    Dangos wnawn ufudd-dod, ymddarostwng wnawn.

    Wrth bregethu’n ffyddlon plesio Duw a gawn.

    (CYTGAN)

    Ymostyngedig, llwyr ymroddedig,

    Teyrngar i drefn ein Duw.

    Gofal a chariad rydd ef i’n gwarchod—

    Haeddu mae ffyddlondeb triw.

(Gweler hefyd Luc 12:42; Heb. 13:7, 17.)