CÂN 137
Gwragedd Ffyddlon, Chwiorydd Cristnogol
-
1. Sara ac Esther, Mair a Ruth ac eraill—
Ffyddlon, hyderus, a medrus oedd y rhain.
Duw a’i ewyllys a roesant ar y blaen.
Medrwn ddarllen am eu hanes—cofnod sydd.
Eraill hefyd gafodd ffafr Jehofa,
Wyddom ni mo’u henwau, ond amlwg oedd eu ffydd.
-
2. Dewrder, teyrngarwch, cariad, a daioni—
Dyma rinweddau dymunol, buddiol, gwiw.
Dangos y rhain a wnaeth gwragedd ffyddlon triw.
Arnynt mae ein merched glân yn rhoi eu bryd.
Gwerthfawrogwn ein chwiorydd annwyl.
Carwn eu ffyddlondeb. O bydded gwyn eu byd.
-
3. Famau, chwiorydd, ferched, a chi weddwon
Sydd yn llafurio yn llawen yng ngwaith Duw,
Peidiwch ag ofni, eich gwobr, agos yw.
Eich addfwynder a’ch gwyleidd-dra, Duw a’u gwêl.
Mae Jehofa’n cadw llygad arnoch,
Gwerthfawr ydych iddo. Gwobrwyo wna eich sêl.
(Gweler hefyd Phil. 4:3; 1 Tim. 2:9, 10; 1 Pedr 3:4, 5.)