Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CÂN 151

Geilw Ef

Geilw Ef

(Job 14:13-15)

  1. 1. Bregus fel tarth yw bywyd dynol ryw,

    Ymddengys am ychydig,

    Yna diflanna—byr a brau yw byw,

    A hir yw y galaru.

    Os bydd farw dyn, gaiff ef eto fyw?

    Gwranda ar addewid Duw:

    (CYTGAN)

    Geilw Ef; Fe glyw y meirw,

    Ateb wnânt lais Duw y nef.

    Mae hiraeth ar Jehofa

    Am weld gwaith ei ddwylo ef.

    D’wedodd Iesu, “Na ryfeddwch.”

    Addo wnaeth mai sefyll wnawn

    Ar ddaear llawn molawdau—

    ’Mlodau’n dyddiau y parhawn.

  2. 2. Bydd pawb sy’n huno’n dawel yng nghof Duw

    Yn derbyn atgyfodiad.

    O’u hirgwsg deffro wnânt, yn iach, i fyw

    Ar ddaear ir, llawn cariad.

    Gorfoleddu wnawn, calon lawen gawn,

    Bywyd perffaith a fwynhawn.

    (CYTGAN)

    Geilw Ef; Fe glyw y meirw,

    Ateb wnânt lais Duw y nef.

    Mae hiraeth ar Jehofa

    Am weld gwaith ei ddwylo ef.

    D’wedodd Iesu, “Na ryfeddwch.”

    Addo wnaeth mai sefyll wnawn

    Ar ddaear llawn molawdau—

    ’Mlodau’n dyddiau y parhawn.