Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CÂN 158

Ni Fydd yn Hwyr!

Ni Fydd yn Hwyr!

(Habacuc 2:3)

  1. 1. Gwaith dy ddwylo di

    sy’n ein llonni ni.

    Cysurlon i ni

    yw grym d’amynedd di.

    Er cynddrwg yw’r byd,

    cyson wyt o hyd

    Wrth ddisgwyl bob dydd

    am gael ail-greu dy fyd.

    (CYTGAN)

    Hiraeth sydd arnon ni

    am dy Baradwys di.

    Dangos amynedd yr wyt.

    Heb os nac oni bai,

    gwyddon ni yn ddiau,

    Heb oedi, ni fydd dy ddydd

    R’un eiliad yn hwyr!

  2. 2. Rwyt ti yn dyheu

    am i’th ffrindiau lu

    Ddihuno o’u cwsg—

    Hiraethus wyt fel ni.

    Trugarha! O Dduw!

    Clyw ein heiriol gri:

    Plîs rho nerth a grym

    d’amynedd ynon ni!

    (CYTGAN)

    Hiraeth sydd arnon ni

    am dy Baradwys di.

    Dangos amynedd yr wyt.

    Heb os nac oni bai,

    gwyddon ni yn ddiau,

    Heb oedi, ni fydd dy ddydd

    R’un eiliad yn hwyr!

  3. 3. Chwilio rwyt o hyd

    am galonnau glân.

    Dal ati yr wyt

    i adfer defaid gwan.

    Yn dy gwmni di,

    gweithiwn law yn llaw,

    Yn nes daw dy ddydd,

    ac atat ti nesawn.

    (CYTGAN)

    Hiraeth sydd arnon ni

    am dy Baradwys di.

    Dangos amynedd yr wyt.

    Heb os nac oni bai,

    gwyddon ni yn ddiau,

    Heb oedi, ni fydd dy ddydd

    R’un eiliad yn hwyr!

    Ni fydd dy ddydd di yn hwyr!

(Gweler hefyd Col. 1:11.)