Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CÂN 17

‘Dwi Eisiau Dy Helpu’

‘Dwi Eisiau Dy Helpu’

(Luc 5:13)

  1. 1. Dangos cariad perffaith wnaeth Crist

    Pan ddaeth lawr i’r ddaear i fyw.

    Yn garedig, yn hael,

    Cysurodd y gwael,

    Ac adfer eu golwg a’u clyw.

    Tirion oedd, mewn gweithred a gair,

    A theimlodd eu poen nhw i’r byw.

    Wrth weld dyn yn dioddef, medd Iesu,

    ‘Dwi eisiau, dwi moyn dy helpu.’

  2. 2. Â charedig weithred a gair

    Cawn ninnau roi cymorth yn hael.

    I’r anghenus yr awn,

    Eu helpu a wnawn.

    Â chariad, cysurwn y gwael.

    Â thiriondeb, rhoddwn help llaw,

    A dangos amynedd di-drai.

    Cydymdeimlwn, a dweud yn garedig,

    ‘Dwi eisiau, dwi moyn dy helpu.’