CÂN 24
Dewch i Fynydd Jehofa
(Eseia 2:2-4)
-
1. Uwch na’r bryniau i gyd
Ydyw mynydd sanctaidd Duw.
Mynydd yw o addoliad
Dyrchafedig a phur.
At Jehofa yr â
Llwyth o bobl. Ânt yn llu
Gan ddweud, “Dewch i addoli Duw.
Dewch, cewch ddysgu’r Gwir.”
Dyma’r oes. Dyma’r awr.
Tyfu’n gyson y mae’r dyrfa fawr.
Dan arweiniad o’r nef
Daeth y fechan yn genedl gref.
Mae miliynau yn dod—
Derbyn maent sofraniaeth Duw.
Cerddant ar hyd ei lwybrau,
Dysgant ffordd Duw o fyw.
-
2. D’wedodd Iesu fod rhaid
Dysgu a phregethu’r gair.
Dyna a wnawn wrth rannu’r
Neges am Deyrnas Dduw.
Nawr, mae Crist yn y nef,
Ac yn annog ’r addfwyn i
Sefyll o blaid addoliad pur
Yn deyrngar a thriw.
Nifer mwy sydd o hyd.
Cânt eu denu o bedwar ban byd.
Wrth eu gweld, llawenhawn,
Ac i estyn gwahoddiad yr awn:
“Dewch, ymunwch â ni,
Dewch i fynydd sanctaidd Duw.
Cerddwn ar hyd ei lwybrau,
Dysgwn ffordd Duw o fyw.”
(Gweler hefyd Salm 43:3; 99:9; Esei. 60:22; Act. 16:5.)