CÂN 29
Mae Dy Enw Arnom
(Eseia 43:10-12)
-
1. Arglwydd Jehofa, mawr Dduw hollalluog,
Gymaint dy gariad, rhoist arnom dy fryd.
Awdur goleuni, gwirionedd, doethineb—
Ti sy’n rheoli y cread i gyd.
Braint fendigedig yw cael dy was’naethu,
Dwedwn wrth bawb am dy Deyrnas, O Dduw.
(CYTGAN)
Ni yw dy Dystion, mae arnom dy enw,
Ffyddlon a fyddwn i’n Harglwydd clodwiw!
-
2. Cadw ni’n brysur mae’r gwaith cysegredig—
Creu mae frawdoliaeth sy’n gynnes, gytûn.
Dysgu a wnawn dy wirionedd i eraill,
I ben draw’r byd awn, dros fynydd a ffin.
Teyrnas sy’n goron i’th lân Benarglwyddiaeth—
Dyna gyhoeddwn, myrddiynau a glyw.
(CYTGAN)
Ni yw dy Dystion, mae arnom dy enw,
Ffyddlon a fyddwn i’n Harglwydd clodwiw!
(Gweler hefyd Deut. 32:4; Salm 43:3; Dan. 2:20, 21.)