CÂN 33
Bwrw Dy Faich ar Jehofa
(Salm 55)
-
1. “O Dduw, Gwranda ar fy ngweddi.”
Gwranda, plîs, ac ateb fi.
Rho dawelwch yn fy nghalon,
Gwna fy nghoesau gwan yn gryf.
(CYTGAN)
Bwrw’th faich ar Dduw Jehofa.
Dibynadwy a chyson ydyw.
Ef a’th gynnal, ef a’th achub.
Trystia ef. Duw ffyddlon yw.
-
2. O! Pe bai gen i adenydd,
Ffown i ffwrdd ymhell o’r trais.
Cuddiwn rhag y storm a’r cyffro,
Rhag pob twyll a gair sarhaus.
(CYTGAN)
Bwrw’th faich ar Dduw Jehofa.
Dibynadwy a chyson ydyw.
Ef a’th gynnal, ef a’th achub.
Trystia ef. Duw ffyddlon yw.
-
3. Cysur, cymorth, cariad cyson,
A hedd mewnol gawn gan Dduw.
Cuddfan ydyw ef i’r cyfiawn.
Ffyddlon a charedig yw.
(CYTGAN)
Bwrw’th faich ar Dduw Jehofa.
Dibynadwy a chyson ydyw.
Ef a’th gynnal, ef a’th achub.
Trystia ef. Duw ffyddlon yw.
(Gweler hefyd Salm 22:5; 31:1-24.)