CÂN 36
Gwarchodwn Ein Calonnau
(Diarhebion 4:23)
-
1. Gwarchodwn ein calonnau ni—
Ffynhonnell bywyd yw.
Rhag llwybrau pechod cadwn draw—
Ein tywys ni mae Duw.
Yn hytrach na dibynnu ar
Deimladau sy’n llawn twyll,
Doethineb sy’n ein harwain ni.
Ein llywio gawn gan bwyll.
-
2. Gwarchodwn ein calonnau ni
Wrth droi at Dduw, ein Caer,
A rhannu ein pryderon ni
Bob dydd mewn gweddi daer.
O’n gwirfodd ufuddhawn yn llwyr,
Parhawn i feithrin ffydd,
Datblygwn galon deyrngar sy’n
Ei blesio Ef bob dydd.
-
3. Gwarchodwn ein calonnau ni
Rhag pethau sy’n amhur
Drwy ganolbwyntio ar yr hyn
Sy’n lân, sy’n iawn, sy’n wir.
Yr hyn yr ydym y tu mewn,
Ein calon deyrngar, driw
Sy’n bwysig iawn, sydd werth y byd,
Sy’n hardd yng ngolwg Duw.
(Gweler hefyd Salm 34:1; Phil. 4:8; 1 Pedr 3:4.)