CÂN 39
Gwneud Enw Da Gyda Duw
(Pregethwr 7:1)
-
1. Bob dydd, fe geisiwn Wneud enw gyda Duw.
Uwch yw nag arian, Yn well na chyfoeth yw.
Os gwnawn yr hyn sy’n iawn, Gwneud enw da a wnawn,
A chyfeillgarwch Jehofa gawn.
-
2. Mae bod yn enwog Yn bwysig yn y byd.
Mae clod y dyrfa Yn denu rhai o hyd.
Ond dim ond balchder gwag Yw hud y byd a’i frad.
Ger bron Jehofa Gwnawn enw da.
-
3. Mae Duw yn sylwi Ar bawb sy’n ddewr eu ffydd.
Mae’n cadw cofnod O’u henwau—rhestr sydd.
Gwneud enw gyda Duw A wnawn tra byddwn byw.
Yng nghof Jehofa, Diogel yw.
(Gweler hefyd Gen. 11:4; Diar. 22:1; Mal. 3:16; Dat. 20:15.)