CÂN 47
Gweddïa ar Jehofa Bob Dydd
-
1. Ar Dduw Jehofa gweddïa yn daer.
Ffrind i ti ydyw, gwrandawa bob gair.
Tywallt dy galon â’th bryder i gyd,
Ynddo cei loches rhag pwysau y byd.
Ar Dduw gweddïa bob dydd.
-
2. Ar Dduw gweddïa, rho ddiolch am fyw,
Deisyf faddeuant, ein cyffes a glyw.
Gofyn am gymorth i gadw yn driw—
Er mai llwch ydym, yn gwrando mae Duw.
Ar Dduw gweddïa bob dydd.
-
3. Amlach na pheidio problemau a ddaw.
Paid ti â phoeni, help Duw sydd gerllaw.
Tro at Jehofa, mor agos yw ef,
Arno dibynnwn, ei law ef sy’n gref.
Ar Dduw gweddïa bob dydd.
(Gweler hefyd Salm 65:5; Math. 6:9-13; 26:41; Luc 18:1.)