CÂN 51
I Dduw Mae Ein Hymgysegriad!
-
1. Disgyblion i Grist nawr ydym—Tystion i Dduw,
Fe’n denodd ni ato, hyn gwir yw.
Y gwirionedd atom ddaeth
A goleuo’n calon wnaeth,
Adlewyrchu’r llewyrch gawn,
Yn llwyr ymwadu a wnawn.
(CYTGAN)
I Dduw mae ein hymgysegriad; Tyngon lw taer—
Yng Nghrist a Jehofa cawn lawenhau.
-
2. Mewn gweddi i’n Duw Jehofa, rydym yn troi
A dweud wrtho ef gwnawn lwyr ymroi.
I Jehofa ufuddhawn,
Rhown o’n gwirfodd, llawenhawn,
Rhannu’r newydd da a wnawn,
Bendithion dwyfol a gawn.
(CYTGAN)
I Dduw mae ein hymgysegriad; Tyngon lw taer—
Yng Nghrist a Jehofa cawn lawenhau.
(Gweler hefyd Salm 43:3; 107:22; Ioan 6:44.)