CÂN 57
Pregethu i Bob Math o Bobl
-
1. O wybod mai diragfarn yw ein Duw,
Dymunwn ninnau hefyd fod yn deg.
Mae Duw yn tynnu tyrfa ato’i hun—
Pob math o bobl, o bob lliw a llun.
(CYTGAN)
Calon bur, derbyniol yw.
Ni waeth befo’r llun na’r lliw,
I bobl o bob math estynnwn law.
Does dim ots lle maent yn byw,
Gallant ddod yn ffrind i Dduw.
I bawb ym mhobman rhoddwn groeso mawr.
-
2. Yn ddibwys i ni yw eu pryd a’u gwedd.
Nid oes dim ots i ni lle maent yn byw.
Pwysicaf oll yw cyflwr calon dyn,
Yr hyn a welir gan Jehofa Dduw.
(CYTGAN)
Calon bur, derbyniol yw.
Ni waeth befo’r llun na’r lliw,
I bobl o bob math estynnwn law.
Does dim ots lle maent yn byw,
Gallant ddod yn ffrind i Dduw.
I bawb ym mhobman rhoddwn groeso mawr.
-
3. Mae Duw yn estyn croeso mawr i bawb
Sy’n dod i ddysgu y gwirionedd glân.
Cawn ninnau estyn croeso cynnes iawn
Drwy fynd â’r gwir at bobl o bob math.
(CYTGAN)
Calon bur, derbyniol yw.
Ni waeth befo’r llun na’r lliw,
I bobl o bob math estynnwn law.
Does dim ots lle maent yn byw,
Gallant ddod yn ffrind i Dduw.
I bawb ym mhobman rhoddwn groeso mawr.
(Gweler hefyd Ioan 12:32; Act. 10:34, 35; 1 Tim. 4:10; Titus 2:11.)