Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CÂN 66

Cyhoeddwch y Newyddion Da

Cyhoeddwch y Newyddion Da

(Datguddiad 14:6, 7)

  1. 1. Ymhell yn ôl yr oedd cyfrinach ddwyfol gudd.

    Drwy’r oesoedd maith, Jehofa wnaeth ddatgelu’r gwir

    Am Frenin newydd i reoli yn y nef

    Yn Ben-Tywysog cyfiawn ar ei Deyrnas Ef.

    Fe welodd gyflwr pechadurus dynol ryw.

    Yn ei drugaredd,

    trefnu wnaeth ein cariadus Dduw

    I’r Brenin a’i briodferch ogoneddus, wiw

    Deyrnasu dros y ddaear—Gwir ddatgeliad yw!

  2. 2. Er iddo drefnu’r pethau hyn ers oesoedd maith,

    Yn awr yw’r awr i ninnau fwrw ’mlaen â’r gwaith

    O rannu y gyfrinach, o gyhoeddi’n glir

    Y newydd da am Deyrnas Dduw, a thraethu’r gwir.

    Cawn gwmni yr angylion wrth bregethu’r gair.

    Mae’n fraint,

    dyletswydd ac anrhydedd sydd heb eu hail—

    Y ni sy’n cael sancteiddio enw Duw ein Tad

    Drwy daenu a chyhoeddi y newyddion da.