CÂN 74
Ymunwch yng Nghân y Deyrnas!
(Salm 98:1)
-
1. Fe ganwn lawen gân am iachawdwriaeth,
I foli’n Crëwr a’i weithredoedd ef.
Mae’r geiriau’n hybu gobaith a theyrngarwch.
Dewch! Dysgwch alaw’r gorawenus lef:
(CYTGAN)
‘Dewch, molwch Dduw! Addolwch Ef!
Ei Fab sy’n Frenin yn y nef!
Dewch! Canwch gân am Deyrnas Dduw Jehofa.
Ymgrymwch ger ei fron a’i foli Ef.’
-
2. Wrth ganu yn y côr fe hysbysebwn
Fod Iesu nawr yn frenin yn y nef.
Ei frodyr hefyd, cenedl sy’n sanctaidd,
Sy’n canu’r gytgan hon i’w foli ef:
(CYTGAN)
‘Dewch, molwch Dduw! Addolwch Ef!
Ei Fab sy’n Frenin yn y nef!
Dewch! Canwch gân am Deyrnas Dduw Jehofa.
Ymgrymwch ger ei fron a’i foli Ef.’
-
3. Apelgar ydyw’n harmoni a’n cytgord.
Côr cymysg sy’n cydganu fel un llais.
Gall unrhyw un, sy’n fwyn, feistroli’r cywair
A’r dôn i’w hatsain allan yn y maes:
(CYTGAN)
‘Dewch, molwch Dduw! Addolwch Ef!
Ei Fab sy’n Frenin yn y nef!
Dewch! Canwch gân am Deyrnas Dduw Jehofa.
Ymgrymwch ger ei fron a’i foli Ef.’
(Gweler hefyd Salm 95:6; 1 Pedr 2:9, 10; Dat. 12:10.)