CÂN 76
Pa Fath o Deimlad Yw?
-
1. Pa fath o deimlad yw
bod yn Dyst Jehofa Dduw,
A chael gwneud ein gorau glas
i rannu geiriau’r gwir?
Pa fath o deimlad gawn
wrth ddefnyddio’n llais a’n dawn,
Er mwyn ceisio cyrraedd calon
sydd yn fwyn a phur?
(CYTGAN)
Mae’n deimlad grêt. Mae’n deimlad braf.
Mae’n fraint pregethu’r newydd da.
Rhown aberth moliant, a’n calonnau’n
llawn, a’n lleisiau’n llon.
-
2. Pa fath o deimlad gei,
pa lawenydd a fwynhei,
Wrth offrymu aberth moliant
â’th wefusau di?
“Diolch, ond na,” medd rhai,
a chlywn glec y drws yn cau.
Ond yn llon ein calon,
llawen yw ein hagwedd ni.
(CYTGAN)
Mae’n deimlad grêt. Mae’n deimlad braf.
Mae’n fraint pregethu’r newydd da.
Rhown aberth moliant, a’n calonnau’n
llawn, a’n lleisiau’n llon.
-
3. Pa fath o deimlad yw
cael cyhoeddi neges Duw,
A chael gwybod bod Jehofa
yn ein trystio ni?
Braint ac anrhydedd yw
dysgu’r gwir i ddynol-ryw.
Geiriau iach a geiriau
graslon a ddefnyddiwn ni.
(CYTGAN)
Mae’n deimlad grêt. Mae’n deimlad braf.
Mae’n fraint pregethu’r newydd da.
Rhown aberth moliant, a’n calonnau’n
llawn, a’n lleisiau’n llon.
(Gweler hefyd Act. 13:48; 1 Thes. 2:4; 1 Tim. 1:11.)