CÂN 78
Dysgu Gair Duw i Eraill
-
1. Wrth ddysgu eraill am Air Duw,
Llawenydd mawr a gawn.
Gan Dduw cawn fuddion heb eu hail,
A’i fendith a fwynhawn.
Cawn efelychu dull Mab Duw,
 chariad dysgodd ef.
Ein cariad fydd yn helpu eraill
I ’nabod Duw y nef.
-
2. Wrth ddysgu eraill am Air Duw,
Bydd ein hesiampl dda
O wneud daioni’n dysgu gwers
O les, hir ei pharhad.
Gwneud diwyd ymchwil byddwn ni
I gadw at y gwir.
Ac o drysordy ein calonnau
Dysgeidiaeth gânt sy’n bur.
-
3. Er mwyn bod yn athrawon da,
Gan Dduw cawn ysbryd glân.
Os gofyn wnawn, a chyson yw
Â’i fwriad, gwrando wna.
 chariad, dysgu wnawn Gair Duw,
A charu wnânt y gwir.
Myfyrwyr Gair Duw heddiw fydd yn
Athrawon cyn bo hir!
(Gweler hefyd Salm 119:97; 2 Tim. 4:2; Titus 2:7; 1 Ioan 5:14.)