CÂN 82
‘Disgleiriwch Eich Golau’
-
1. Cofiwn eiriau Iesu,
“Chi yw golau’r byd.”
Chuddiwn ni mo’n golau,
Amlwg yw o hyd.
O’r Ysgrifau Sanctaidd,
Claer oleuni gawn.
Adlewyrchu’r llewyrch hwn
Yn ein bywyd wnawn.
-
2. Er mwyn bod yn ddisglair,
Sgleinio’n sgiliau wnawn.
Gall pelydrau’r gwir
Gaboli’n dysg a’n dawn.
Lledwn ein goleuni
Â’r gwahoddiad clir:
Dewch, mwynhewch y llewyrch sy’n
Gloywi rhodfa’r gwir.
-
3. Gall un gair caredig,
Fel un seren dlos,
Befrio yn y t’wyllwch
A goleuo’r nos.
Wrth belydru cariad,
Denu eraill wnawn.
Wrth ddisgleirio’n golau ni,
Golau’r Tad fawrhawn.
(Gweler hefyd Salm 119:130; Math. 5:14, 15, 45; Col. 4:6.)