CÂN 83
O Dŷ i Dŷ
-
1. O dŷ i dŷ, o dref i dref,
Awn â’r newyddion da.
O fferm i fferm, o lôn i lôn,
Yn drefnus drwy’r holl wlad.
Pregethu wnawn am Deyrnas Dduw,
Ei nod, ei hawl, a’i grym.
Ond enw’n Duw, Jehofa,
Datgan wnawn, yn anad dim.
-
2. O dŷ i dŷ, dros nant a phont,
Cyhoeddwn neges glir.
Ar draws wastatir sych y paith,
Cânt ddewis dysgu’r gwir.
Sut gallai pobl ddangos ffydd
Heb ddod i nabod Duw?
Ac felly i bob cartref awn
Ar hyd pob stryd a rhiw.
-
3. Drwy gwm, drwy giât, drwy goediog dir,
Ar lonydd serth a chul,
Dilynwn lwybrau troellog hir
I gyrraedd pob un tŷ.
Os gwnân nhw ddewis caru Duw,
Cânt wobr am eu ffydd.
A dyna pam yr awn o ddrws
I ddrws, o dŷ i dŷ.
(Gweler hefyd Act. 2:21; Rhuf. 10:14.)