CÂN 98
Ysgrythurau Ysbrydoledig Duw
-
1. Trwy’r tywyllwch, mae lamp Gair Duw
Yn goleuo—llusern yw.
Golau’r gwir dilyn wnawn bob dydd,
O gau gredoau awn yn rhydd.
-
2. Geiriau ysbrydoledig Duw
Sy’n ein dysgu sut i fyw.
Dangos gwall, a chywiro wna—
Buddiol yw er pob gweithred dda.
-
3. O’r Ysgrythur gan Dduw y nef
Dysgwn am ei gariad ef.
Os darllenwn ei Air bob dydd,
Ein llwybr, goleuedig fydd.
(Gweler hefyd Salm 119:105; Diar. 4:13.)