Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

A Ddylai Crefydd Ymwneud â Gwleidyddiaeth?

A Ddylai Crefydd Ymwneud â Gwleidyddiaeth?

 Ar draws y byd, mae llawer o bobl sy’n honni dilyn Iesu Grist â rhan fawr mewn gwleidyddiaeth. Mae rhai yn ceisio hyrwyddo gwerthoedd crefyddol a moesol drwy gefnogi ymgeiswyr penodol neu bleidiau gwleidyddol. Yn eu tro, mae gwleidyddion yn aml yn defnyddio materion moesol neu gymdeithasol i gael cefnogaeth pobl grefyddol. Dydy hi ddim yn anarferol i bobl grefyddol fod yn ymgeiswyr mewn etholiadau. Ac mewn rhai gwledydd, gall enwad Cristnogol hyd yn oed gael statws arbennig fel y grefydd genedlaethol neu’r eglwys wladol.

 Beth yw eich barn chi? A ddylai dilynwyr Iesu Grist ymwneud â gwleidyddiaeth? Cewch hyd i’r ateb drwy edrych ar esiampl Iesu. Dywedodd ef: “Dw i wedi rhoi esiampl i chi er mwyn i chi wneud yr un peth i’ch gilydd.” (Ioan 13:15) O ran gwleidyddiaeth, pa batrwm osododd Iesu?

A oedd Iesu’n ymwneud â gwleidyddiaeth?

 Nac oedd. Doedd Iesu ddim yn cymryd rhan ym materion gwleidyddol y byd.

 Doedd Iesu ddim yn ceisio grym gwleidyddol. Gwrthod a wnaeth Iesu pan gynigiodd Satan reolaeth dros “holl deyrnasoedd y byd” iddo. (Mathew 4:8-10, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig) a Ar achlysur arall, pan welodd pobl fod gan Iesu rinweddau a fyddai’n ei wneud yn arweinydd da, fe geision nhw ei orfodi i ymwneud â gwleidyddiaeth. Mae’r Beibl yn dweud: “Gan fod Iesu’n gwybod eu bod nhw’n bwriadu ei orfodi i fod yn frenin, aeth i ffwrdd i fyny’r mynydd unwaith eto ar ei ben ei hun.” (Ioan 6:15) Wnaeth Iesu ddim ildio i’w dymuniad. Yn hytrach, gwrthododd gymryd unrhyw ran mewn gwleidyddiaeth.

 Doedd Iesu ddim yn cymryd ochr mewn materion gwleidyddol. Er enghraifft, yn nyddiau Iesu, roedd yr Iddewon yn flin am eu bod nhw’n gorfod talu trethi i’r llywodraeth Rufeinig ac yn gweld y fath drethi yn faich anghyfiawn. Pan geisiodd yr Iddewon berswadio Iesu i gymryd ochr yn y mater, gwrthododd Iesu gael ei dynnu i mewn i’r ddadl ynglŷn ag oedd y fath drethi yn deg neu beidio. Dywedodd wrthyn nhw: “Rhowch beth sydd biau Cesar i Cesar, a’r hyn biau Duw i Dduw.” (Marc 12:13-17) Arhosodd yn niwtral ar y cwestiwn gwleidyddol, ond dangosodd y dylai pobl dalu’r trethi yr oedd Cesar, sef yr awdurdodau Rhufeinig, yn eu hawlio. Ar yr un pryd, dangosodd fod terfyn ar yr ufudd-dod hwnnw. Dylai rhywun ddim rhoi i’r wladwriaeth yr hyn oedd yn perthyn i Dduw yn unig, gan gynnwys defosiwn ac addoliad.​—Mathew 4:10; 22:37, 38.

 Roedd Iesu yn hyrwyddo llywodraeth nefol, sef Teyrnas Dduw. (Luc 4:43) Doedd Iesu ddim yn cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth am ei fod yn gwybod mai Teyrnas Dduw, nid llywodraethau dynol, a fyddai’n cyflawni’r hyn mae Duw ei eisiau ar gyfer y ddaear. (Mathew 6:10) Roedd yn deall na fyddai Teyrnas Dduw yn gweithredu drwy gyfrwng llywodraethau dynol, ond fe fyddai maes o law yn eu disodli.​—Daniel 2:44.

A oedd y Cristnogion yn y ganrif gyntaf yn cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth?

 Nac oedden. Roedd dilynwyr Iesu yn ufuddhau i’w orchymyn, “dych chi ddim yn perthyn i’r byd.” (Ioan 15:19) Roedden nhw’n dilyn ei esiampl ac yn aros ar wahân i wleidyddiaeth y byd. (Ioan 17:16; 18:36) Yn hytrach nag ymwneud â materion gwleidyddol, roedden nhw’n gwneud y gwaith roedd Iesu wedi dweud wrthyn nhw am ei wneud, sef pregethu a dysgu am Deyrnas Dduw.—Mathew 28:18-20; Actau 10:42.

 Roedd Cristnogion y ganrif gyntaf yn rhoi ufudd-dod i Dduw yn gyntaf yn eu bywydau, ond roedden nhw hefyd yn gwybod bod rhaid iddyn nhw barchu’r awdurdodau seciwlar. (Actau 5:29; 1 Pedr 2:13, 17) Roedden nhw’n ufuddhau i’r gyfraith, ac yn talu eu trethi. (Rhufeiniaid 13:1, 7) Er nad oedden nhw’n ymwneud â gwleidyddiaeth, roedden nhw’n defnyddio’r systemau cyfreithiol a’r gwasanaethau eraill roedd y llywodraeth yn eu darparu.—Actau 25:10, 11; Philipiaid 1:7.

Niwtraliaeth Cristnogion heddiw

 Mae’r Beibl yn dangos yn glir nad oedd Iesu na’i ddilynwyr cynnar yn ymwneud â gwleidyddiaeth. Am eu bod nhw’n Gristnogion, mae Tystion Jehofa o gwmpas y byd yn aros yn gwbl niwtral. Fel y Cristnogion yn y ganrif gyntaf, maen nhw’n gwneud y gwaith a orchmynnodd Iesu, sef pregethu’r “newyddion da am deyrnasiad Duw.”—Mathew 24:14.

a Pan wrthododd Iesu gynnig Satan, wnaeth ef ddim gwadu bod gan Satan yr awdurdod i wneud y cynnig. Yn ddiweddarach, dywedodd mai “tywysog y byd hwn” yw Satan.—Ioan 14:30