BYDDWCH YN WYLIADWRUS!
Ai Dim Ond Breuddwyd Yw Cydraddoldeb Hiliol?—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud?
I lawer o bobl, mae cydraddoldeb hiliol yn dal yn freuddwyd sydd heb ei gwireddu.
“Mae hiliaeth yn dal i wenwyno sefydliadau, strwythur y gymdeithas, a bywyd bob dydd pobl ym mhob man. Mae’n dal i fod yn ffactor allweddol mewn anghydraddoldeb parhaus.”—António Guterres, Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig.
A fyddwn ni’n gweld cydraddoldeb hiliol ryw ddydd? Beth mae’r Beibl yn ei ddweud?
Agwedd Duw tuag at gydraddoldeb hiliol
Mae’r Beibl yn dangos sut mae Duw yn gweld pobl o wahanol hiliau.
“Allan o un dyn, fe wnaeth [Duw] bob cenedl o ddynion i fyw ar holl wyneb y ddaear.”—Actau 17:26.
“Dydy Duw ddim yn dangos ffafriaeth, ond ym mhob cenedl, mae’r dyn sy’n ei ofni ac sy’n gwneud beth sy’n iawn yn dderbyniol iddo.”—Actau 10:34, 35.
Mae’r Beibl yn dangos bod pawb ar y ddaear yn perthyn i’r un teulu a bod Duw yn derbyn pobl o bob hil.
Sut caiff y freuddwyd am gydraddoldeb hiliol ei gwireddu?
Caiff y freuddwyd am gydraddoldeb hiliol ei gwireddu o dan Deyrnas Dduw, sydd yn llywodraeth nefol. Bydd y llywodraeth honno’n dysgu pobl sut i drin eraill mewn ffordd deg. Bydd pobl yn dysgu sut i gael gwared ar unrhyw ragfarn hiliol sy’n llechu yn eu calonnau.
“Bydd trigolion byd yn dysgu cyfiawnder.”—Eseia 26:9, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig.
“Bydd cyfiawnder yn arwain i heddwch, ac wedyn bydd llonydd a diogelwch am byth.”—Eseia 32:17.
Heddiw, mae miliynau o bobl yn dysgu o’r Beibl sut i drin eraill â pharch ac urddas.
I ddysgu mwy, gweler y cylchgrawn Deffrwch! “Is There a Cure For Prejudice?”
Darllenwch yr erthygl “Trafod Hiliaeth â’ch Plant” i weld sut gall teuluoedd drafod y pwnc hwn.