BYDDWCH YN WYLIADWRUS!
Gobaith ar Gyfer 2024—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud?
Wrth feddwl am y problemau sy’n wynebu’r byd yn 2024, mae llawer yn digalonni’n llwyr. Ond mae gobaith ar gael ar gyfer y dyfodol. Ymhle?
Mae’r Beibl yn rhoi gobaith inni
Mae’r Beibl yn addo y bydd Duw yn datrys y problemau sy’n gwneud inni anobeithio heddiw. Yn fuan, bydd Duw “yn sychu pob deigryn [o’n] llygaid [ni], ac ni fydd marwolaeth mwyach, ac ni fydd galar na llefain na phoen mwyach.”—Datguddiad 21:4.
I ddysgu mwy am addewidion y Beibl ar gyfer y dyfodol, gweler yr erthygl “Gobaith Go Iawn am Ddyfodol Gwell.”
Sut mae’r Beibl yn gallu eich helpu chi heddiw?
Mae’r gobaith yn y Beibl ar gyfer y dyfodol yn gallu eich helpu chi i beidio ag anobeithio ac i deimlo’n fwy positif. (Rhufeiniaid 15:13) Mae’r cyngor ymarferol yn y Beibl hefyd yn gallu eich helpu chi i ddelio â phroblemau fel tlodi, anghyfiawnder, ac afiechyd.
Gwelwch sut mae’r gobaith yn y Beibl wedi helpu un dyn i gael tawelwch meddwl ac i fod yn hapus er iddo gael ei fagu mewn ardal dlawd iawn. Gwyliwch y fideo Juan Pablo Zermeño: Jehovah Gave Me a Meaningful Life.
Gwelwch sut mae’r Beibl yn gallu eich helpu chi i ymdopi ag euogrwydd, tristwch, pryder, a cholled. Darllenwch yr erthygl “Can I Find Words of Comfort in the Bible?”
Gwelwch sut mae cyn-filwr a oedd yn dweud ei bod hi’n berson “caled a dideimlad” wedi dod o hyd i obaith, diolch i’r Beibl. Gwyliwch y fideo I Put Down My Rifle.
Gwnewch 2024 yn flwyddyn dda i chi a’ch teulu. Dysgwch fwy am sut mae’r Beibl yn gallu eich helpu. Rhowch gynnig ar ein cwrs astudio’r Beibl am ddim, a gwelwch sut mae Duw yn gallu rhoi tawelwch meddwl ichi heddiw yn ogystal â “dyfodol llawn gobaith.”—Jeremeia 29:11.