Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

SUT MAE EICH CYFRANIADAU YN CAEL EU DEFNYDDIO

Cynnal a Chadw Neuaddau’r Deyrnas

Cynnal a Chadw Neuaddau’r Deyrnas

1 EBRILL, 2024

 “Dw i wrth fy modd yn Neuadd y Deyrnas!” meddai chwaer ifanc yn Colombia, o’r enw Nicole. “Dyna lle gallwn i fod gyda fy mrodyr a chwiorydd Cristnogol.” Ydych chi’n teimlo’r un fath?

 Mae Tystion Jehofa yn cynnal cyfarfodydd mewn rhyw 63,000 o Neuaddau’r Deyrnas. Mae’r adeiladau hyn yn rhoi lle cyfforddus inni addoli Duw. Ond maen nhw’n gwneud mwy na hynny. Mae David, sy’n arloesi yn Colombia yn dweud: “Mae Neuadd y Deyrnas yn gwneud ein neges yn fwy deniadol. Mae ymwelwyr yn synnu o weld sut rydyn ni’n gweithio i gadw’r adeilad yn daclus.” Nid ar hap a damwain mae hyn yn digwydd. Rydyn ni’n gweithio’n galed i lanhau Neuaddau’r Deyrnas ac i wneud y gwaith cynnal a chadw. Sut rydyn ni’n gwneud hyn?

Sut Caiff y Gwaith Cynnal a Chadw Ei Drefnu?

 Mae’r cynulleidfaoedd sy’n defnyddio Neuadd y Deyrnas yn gyfrifol am y gwaith. Felly mae’r brodyr a chwiorydd yn glanhau’r neuadd yn rheolaidd. Maen nhw hefyd yn gwneud gwaith cynnal a chadw a mân atgyweiriadau.

 Er mwyn helpu cynulleidfaoedd i ofalu am Neuaddau’r Deyrnas, mae Adran Dylunio ac Adeiladu’r Gangen (LDC) yn penodi brodyr i hyfforddi eraill i wneud gwaith cynnal a chadw. Mae pob hyfforddwr yn gyfrifol am rhwng chwech ac wyth neuadd. Mae’n ymweld â’r cynulleidfaoedd ac yn hyfforddi’r cyhoeddwyr i ofalu am y neuadd. Bob tair blynedd, bydd yn asesu’r adeiladau, yn nodi unrhyw beth sydd angen ei drwsio, ac yn sicrhau bod popeth yn ddiogel.

Mae hyfforddwyr yn ein helpu ni i gadw Neuaddau’r Deyrnas mewn cyflwr da

 Mae’r brodyr a chwiorydd yn ddiolchgar iawn am yr hyfforddiant. Mae chwaer o’r enw Indhumathi, o India, yn dweud: “Roedd yr hyfforddiant yn wych. Roedd hi’n bleser dysgu sut i gadw’r neuadd mewn cyflwr da.” Dywed Evans, brawd sy’n byw yn Cenia: “Dysgon ni sut i osgoi costau mawr drwy drwsio problemau bach yn brydlon, cyn iddyn nhw droi’n broblemau mawr.”

Talu’r Costau

 Gall cost flynyddol defnyddio a gofalu am Neuadd y Deyrnas amrywio o gannoedd i filoedd o bunnau, gan ddibynnu ar leoliad y neuadd, ei oed, a’r nifer o gynulleidfaoedd sy’n ei defnyddio. Sut mae’r costau hyn yn cael eu talu?

 Mae costau’r gwaith cynnal a chadw ar Neuaddau’r Deyrnas yn cael eu talu drwy gyfraniadau. Mae Alexander, o Casachstan, yn esbonio: “Rydyn ni’n defnyddio cyfraniadau i dalu am y Rhyngrwyd, ac am wasanaethau fel trydan a dŵr. Rydyn ni hefyd yn prynu pethau fel offer glanhau, tyweli papur, menig, a phaent.” Mae unrhyw gyfraniadau sydd dros ben yn cael eu rhoi at y gwaith byd-eang i helpu gyda phrosiectau mawr sy’n gofyn am fwy o arian ledled y byd.

Prosiectau Mwy

 Os bydd Neuadd y Deyrnas angen gwaith sy’n costio mwy na’r swm sy’n cael ei wario fel arfer dros ddau neu dri mis, bydd yr henuriaid yn trafod hyn gyda hyfforddwr yr LDC. Os bydd yr LDC yn cymeradwyo’r prosiect, fel arfer bydd yr arian yn dod o gyfraniadau at y gwaith byd-eang. Yn ystod blwyddyn wasanaeth 2023, cwblhawyd 8,793 o brosiectau, ar gost o ychydig dros £60 miliwn. Ystyriwch ddau o’r prosiectau hyn.

 Yn Angola, roedd gan un neuadd a adeiladwyd 15 mlynedd yn ôl nifer o broblemau. Roedd angen system drydanol newydd, roedd craciau yn y waliau, ac roedd y cymdogion yn dweud bod dŵr glaw yn llifo i mewn i’w tai. Trefnwyd prosiect gan yr LDC i drwsio’r problemau, ar gost o tua £7,300. Roedd y cymdogion wrth eu boddau o weld y ffordd cafodd y gwaith ei wneud.

Neuadd y Deyrnas wedi ei hadnewyddu yn Angola

 Yng Ngwlad Pwyl, roedd y to ar un Neuadd y Deyrnas yn gollwng, a’r carped y tu hwnt i’w achub. Cafodd prosiect i drwsio’r to a gosod carped newydd ei gymeradwyo gan yr LDC. Costiodd y prosiect £7,660. O ganlyniad ni fydd angen unrhyw waith atgyweirio mawr ar y neuadd honno am nifer o flynyddoedd.

Gwaith i adnewyddu Neuadd y Deyrnas yng Ngwlad Pwyl

Gwaith Cynnal a Chadw sy’n Dod â Chlod i Jehofa

 Mae gwaith cynnal a chadw yn arbed cyfraniadau gwerthfawr a hefyd yn dod â chlod i Jehofa. Mae brawd o’r enw Shaun, yn Tonga, yn dweud: “Oherwydd ein gwaith cynnal a chadw, gallwn ni addoli Jehofa mewn Neuadd y Deyrnas sy’n dwt ac yn lân. Mae popeth yn gweithio’n dda ac mae’n dod â chlod i enw Jehofa yn y gymuned. Rydyn ni’n teimlo’n falch i wahodd eraill i Neuadd y Deyrnas.”

Sut Gallwch Chi Helpu?

 Gallwn ni i gyd helpu i lanhau a gofalu am ein haddoldai. Mae Marino, sydd yn hyfforddwr gwaith cynnal a chadw yn Awstralia yn dweud: “Mae’r gwaith i edrych ar ôl Neuaddau’r Deyrnas yn fraint y gallwn ni i gyd gael rhan ynddi. Gallwn ni wneud gwahaniaeth mawr trwy arbed cyfraniadau fel y gallan nhw gael eu defnyddio lle mae ’na wir angen.”

 Mae Joel, o India, yn mwynhau helpu. “Mae gweithio gyda fy mrodyr yn fy helpu i ddychmygu sut bydd pethau yn y byd newydd,” meddai. Dywed Nicole, a ddyfynnwyd yn gynharach: “Yn ddiweddar, ro’n i’n mopio’r llawr tra oedd y brodyr yn trwsio problem yn y toiledau. Do’n i ddim yn datrys y broblem, ond ro’n i’n gallu helpu i sicrhau nad oedd pobl yn llithro.”

 Os hoffech chi wirfoddoli i helpu i ofalu am Neuadd y Deyrnas, siaradwch â’r henuriad yn eich cynulleidfa. Ar ben hynny, mae eich cyfraniadau yn cefnogi’r gwaith cynnal a chadw ar eich neuadd chi, ac ar Neuaddau’r Deyrnas ledled y byd. Gallwch gyfrannu drwy roi arian yn y blwch cyfraniadau yn y neuadd neu ar donate.pr2711.com. Rydyn ni’n ddiolchgar iawn am eich haelioni.

Gallwn ni i gyd helpu i ofalu am Neuaddau’r Deyrnas