Y FFORDD I HAPUSRWYDD
Gobaith
“Dw i’n bwriadu eich bendithio chi, dim gwneud niwed i chi. Dw i am roi dyfodol llawn gobaith i chi.”—Jeremeia 29:11.
“MAE GOBAITH YN RHAN HANFODOL O’N BYWYD YSBRYDOL,” meddai’r llyfr Hope in the Age of Anxiety. “A gobaith yw’r feddyginiaeth orau i arbed unigolyn rhag teimlo’n ofnus, yn unig, a rhag iddo deimlo fel nad oes neb yn gallu ei helpu.”
Mae’r angen hwn am obaith yn cael ei adlewyrchu yn nhudalennau’r Beibl, sydd hefyd yn ein rhybuddio rhag gobeithion gwag. “Paid trystio’r rhai sy’n teyrnasu—dyn meidrol sydd ddim yn gallu achub,” meddai Salm 146:3. Yn hytrach na dibynnu ar ymdrechion dynol i’n hachub, doeth yw dibynnu ar ein Creawdwr, sydd â’r grym i gyflawni ei addewidion. Beth mae Duw wedi ei addo inni? Ystyriwch y canlynol:
DIWEDD AR DDRYGIONI; HEDDWCH PARHAOL AR GYFER Y CYFIAWN: “Fydd y rhai drwg ddim i’w gweld yn unman mewn ychydig! . . . Y rhai sy’n cael eu cam-drin yn meddiannu’r tir, ac yn cael mwynhau heddwch a llwyddiant,” meddai Salm 37:10, 11. Mae adnod 29 yn ychwanegu y bydd “y rhai sy’n byw yn iawn” yn byw am byth ar y ddaear.
DIWEDD AR RYFELOEDD: Bydd Jehofa yn “dod â rhyfeloedd i ben drwy’r ddaear gyfan; mae’n malu’r bwa ac yn torri’r waywffon, ac yn llosgi cerbydau rhyfel mewn tân.”—Salm 46:8, 9.
DIWEDD AR AFIECHYD, DIODDEFAINT, A MARWOLAETH: “Bellach mae pabell Duw yng nghanol y bobloedd. . . . Bydd yn sychu pob deigryn o’u llygaid nhw. Fydd dim marwolaeth o hyn ymlaen, dim galaru, dim wylo, dim poen.”—Datguddiad 21:3, 4.
DIGONEDD O FWYD I BAWB: “Boed digonedd o ŷd yn y wlad—yn tyfu hyd at ben y mynyddoedd.”—Salm 72:16.
UN LLYWODRAETH GYFIAWN DROS YR HOLL FYD—TEYRNAS CRIST: “A derbyniodd [Iesu Grist] awdurdod, anrhydedd a grym. Roedd rhaid i bawb, o bob gwlad ac iaith ei anrhydeddu. Mae ei awdurdod yn dragwyddol—fydd e byth yn dod i ben. Fydd ei deyrnasiad byth yn cael ei dinistrio.”—Daniel 7:14.
A allwn ni drystio’r addewidion hyn? Tra oedd ar y ddaear, profodd Iesu ei fod yn gymwys i fod yn Ddarpar-Frenin. Fe wnaeth iacháu’r bobl sâl, bwydo’r tlawd, ac atgyfodi’r meirw. Roedd ei ddysgeidiaethau yn bwysicach byth, oherwydd eu bod nhw’n cynnwys egwyddorion a fydd yn galluogi pobl i fyw gyda’i gilydd am byth mewn heddwch ac undod. Gwnaeth Iesu hefyd ragfynegi digwyddiadau’r dyfodol, gan gynnwys pethau a fyddai’n dynodi dyddiau olaf y byd sydd ohoni.
Y STORM CYN Y TAWELWCH
Rhagfynegodd Iesu y byddai’r dyddiau diwethaf yn cael eu dynodi, nid gan heddwch a diogelwch, ond y gwrthwyneb! Mae ei arwydd cyfansawdd ynglŷn â “diwedd y byd” yn cynnwys rhyfeloedd rhyngwladol, newyn, afiechydon, a daeargrynfeydd erchyll. (Mathew 24:3, 7; Luc 21:10, 11; Datguddiad 6:3-8) Hefyd, dywedodd Iesu: “Bydd mwy a mwy o ddrygioni a bydd cariad y rhan fwyaf yn oeri.”—Mathew 24:12.
Mae’r oerni hwnnw yn cael ei amlygu mewn llawer o ffyrdd, rhywbeth a gafodd ei ragfynegi gan un o ysgrifenwyr eraill y Beibl. Yn 2 Timotheus 3:1-5, rydyn ni’n darllen am “adegau ofnadwy o anodd” pan fyddai pobl yn gyffredinol yn rhoi eu holl fryd arnyn nhw eu hunain, arian, a phleserau. Byddan nhw’n falch ac yn gas. Ni fyddai teuluoedd yn gariadus, a byddai plant yn anufudd i’w rhieni. Byddai rhagrith crefyddol yn rhemp.
Mae’r amgylchiadau hynny’n dangos bod y byd ynghanol storm y dyddiau diwethaf. Maen nhw hefyd yn cadarnhau bod tawelwch Teyrnas Crist yn agos. Yn wir, gwnaeth Iesu gynnwys yr addewid canlynol yn ei broffwydoliaeth am y dyddiau diwethaf: “A bydd y newyddion da am deyrnasiad Duw yn cael ei gyhoeddi drwy’r byd i gyd. Bydd pob gwlad yn ei glywed, a dim ond wedyn fydd y diwedd yn dod.”—Mathew 24:14.
Mae’r newyddion da yn rhybuddio drwgweithredwyr ac yn rhoi gobaith i’r rhai cyfiawn ac yn cadarnhau y byddai’r bendithion addawedig hyn yn cael eu gwireddu cyn bo hir. Hoffech chi ddysgu mwy am y bendithion hynny? Os felly, trowch i dudalen gefn y cylchgrawn hwn.