Beth Bydd Teyrnas Dduw yn ei Gyflawni?
Dysgodd Iesu i’w ddisgyblion weddïo am i’r Deyrnas ddod. Gwyddai nad ewyllys Duw yw’r pethau ofnadwy sy’n digwydd ar y ddaear. Fe wyddai hefyd mai Teyrnas Dduw yw’r unig lywodraeth a all ddatrys y problemau hyn. Beth bydd Teyrnas Dduw yn ei gyflawni?
BETH MAE TEYRNAS DDUW EISOES WEDI EI WNEUD?
Yn yr erthygl flaenorol edrychon ni ar yr arwydd a roddodd Iesu. Mae’r arwydd yn dystiolaeth bod Teyrnas Dduw wedi ei sefydlu yn y nef a Iesu Grist yn Frenin arni.
Mae’r Beibl yn dweud y byddai Iesu, ar ôl iddo ddod yn Frenin, yn bwrw Satan a’i gythreuliaid allan o’r nef. Mae eu dylanwad bellach wedi ei gyfyngu i’r ddaear, a dyna un o’r rhesymau i bethau waethygu cymaint ers 1914.—Datguddiad 12:7, 9.
Er bod cyflwr y byd yn dirywio, mae Iesu, ac yntau’n Frenin ar Deyrnas Dduw, wedi gwneud llawer i helpu pobl o gwmpas y byd. Diolch i’r gwaith o ddysgu pobl am y Beibl a ragwelodd Iesu, mae llawer yn dysgu sut i roi egwyddorion y Beibl ar waith yn eu bywydau. (Eseia 2:2-4) Mae miliynau wedi dysgu sut i wneud bywyd teuluol yn hapusach, a sut i gadw gwaith a phethau materol yn eu lle. Maen nhw’n dysgu sut i wella eu bywydau heddiw ac maen nhw’n newid i fod yn bobl y bydd Duw yn dymuno eu gweld yn ei Deyrnas.
BETH BYDD TEYRNAS DDUW YN EI WNEUD NESAF?
Er bod Iesu eisoes yn llywodraethu yn y nefoedd, parhau y mae’r llywodraethau dynol ar y ddaear. Ond mae Duw wedi dweud wrth Iesu: “Llywodraetha dithau yng nghanol dy elynion.” (Salm 110:2, Beibl Cymraeg Diwygiedig) Yn fuan, bydd Iesu yn dinistrio pawb sy’n ei wrthwynebu ac yn dod â rhyddhad i’r rhai sy’n fodlon ufuddhau i Dduw.
Yn fuan, bydd Teyrnas Dduw yn
-
Dinistrio gau grefydd. Bydd crefyddau sydd wedi dweud celwyddau am Dduw ac wedi gwneud bywyd yn anodd i bobl yn diflannu. Mae’r Beibl yn cymharu gau grefydd â phutain. Bydd gweld diwedd arni yn ysgytwad i lawer.—Datguddiad 17:15, 16.
-
Rhoi terfyn ar lywodraeth ddynol. Bydd Teyrnas Dduw yn dod â llywodraeth ddynol i ben.—Datguddiad 19:15, 17, 18.
-
Cael gwared ar bobl ddrwg. Beth am y rhai sy’n benderfynol o wneud pethau drwg a gwrthod ufuddhau i Dduw? “Bydd pobl ddrwg . . . yn cael eu rhwygo o’r tir.”—Diarhebion 2:22.
-
Cael gwared ar Satan a’r cythreuliaid. Ni fydd Satan a’r cythreuliaid yn gallu “camarwain y cenhedloedd bellach.”—Datguddiad 20:3, 10.
Beth fydd hyn i gyd yn ei olygu i’r rhai sy’n croesawu Teyrnas Dduw?
BETH BYDD TEYRNAS DDUW YN EI WNEUD DROS Y DDYNOLRYW?
Ac yntau’n Frenin yn y nefoedd, bydd Iesu yn gwneud llawer mwy nag unrhyw arweinydd dynol. Caiff gymorth 144,000 o gyd-lywodraethwyr sy’n cael eu dewis o blith y ddynoliaeth. (Datguddiad 14:1, 3; 20:4, 6) Bydd Iesu yn sicrhau bod ewyllys Duw yn cael ei wneud ar y ddaear. Beth bydd Teyrnas Dduw yn ei wneud ar gyfer y bobl sy’n byw ar y ddaear?
-
Dileu salwch a marwolaeth. “Fydd neb sy’n byw yno’n dweud, ‘Dw i’n sâl,’” ac “ni fydd marwolaeth mwyach.”—Eseia 33:24; Datguddiad 21:4.
-
Dod â gwir heddwch a diogelwch. “Bydd dy blant yn profi heddwch mawr,” a “bydd pawb yn eistedd dan ei winwydden a’i goeden ffigys ei hun, heb angen bod ofn.”—Eseia 54:13; Micha 4:4.
-
Rhoi gwaith ystyrlon i bawb. “Bydd y rhai dw i wedi eu dewis yn cael mwynhau’n llawn waith eu dwylo. Fyddan nhw ddim yn gweithio’n galed i ddim byd.”—Eseia 65:22, 23.
-
Datrys problemau’r amgylchedd. “Bydd yr anialwch a’r tir sych yn llawen, bydd y diffeithwch yn dathlu ac yn blodeuo—yn blodeuo’n sydyn fel saffrwn.”—Eseia 35:1.
-
Dysgu pobl beth y mae angen ei wneud er mwyn byw am byth. “Dyma beth sy’n arwain i fywyd tragwyddol, eu bod nhw’n dod i dy adnabod di, yr unig wir Dduw, a’r un rwyt ti wedi ei anfon, Iesu Grist.”—Ioan 17:3.
Mae Duw eisiau ichi gael pob un o’r bendithion hynny. (Eseia 48:18) Bydd yr erthygl nesaf yn esbonio beth y gallwch chi ei wneud nawr i fod yn rhan o’r dyfodol braf hwn.