Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Pwy Sydd ar Fai?

Pwy Sydd ar Fai?

Os nad ydy dioddefaint yn dod oddi wrth Dduw, beth sy’n gyfrifol am y diffyg bwyd ofnadwy, y tlodi enbyd, y rhyfeloedd erchyll, y clefydau niweidiol, a’r trychinebau naturiol? Mae Gair Duw, y Beibl, yn datgelu tri o’r rhesymau pennaf dros ddioddefaint dynolryw:

  1. Hunanoldeb, Chwant, a Chasineb. “Mae gan rai pobl awdurdod dros eraill i wneud niwed iddyn nhw.” (Pregethwr 8:9) Yn aml, mae pobl yn dioddef oherwydd iddyn nhw gael eu trin yn gas gan bobl amherffaith, hunanol, a chreulon.

  2. Hap a Damwain. Mae bodau dynol yn aml yn dioddef oherwydd bod “damweiniau’n gallu digwydd i bawb.” (Pregethwr 9:11) Hynny yw, gall pobl fod yn y lle anghywir ar yr amser anghywir, a gall damweiniau ddigwydd, neu fe all pobl fod yn ddiofal a gwneud camgymeriadau.

  3. Rheolwr Drwg y Byd Hwn. Mae’r Beibl yn datgelu’n glir beth yw’r prif reswm dros ddioddefaint bodau dynol. Mae’n datgan: “Mae’r byd o’n cwmpas ni yn cael ei reoli gan yr un drwg.” (1 Ioan 5:19) “Yr un drwg” hwnnw ydy Satan y Diafol, ysbryd greadur pwerus a oedd yn wreiddiol yn un o angylion Duw ond ni wnaeth “lynu wrth y gwir.” (Ioan 8:44) Gwnaeth angylion eraill ymuno â Satan a gwrthryfela yn erbyn Duw er mwyn mynd ar ôl chwantau hunanol ac, o ganlyniad, yn eu gwneud eu hunain yn gythreuliaid. (Genesis 6:1-5) Byth oddi ar y gwrthryfel hwnnw, mae Satan a’i gythreuliaid wedi cael dylanwad pwerus a chreulon ar y byd. Mae hyn yn sicr wedi bod yn wir am ein dyddiau ni. Nawr, mae’r Diafol wedi gwylltio’n gandryll ac yn “twyllo’r byd i gyd,” a dyna pam mae’r Beibl yn dweud: “Gwae chi’r ddaear.” (Datguddiad 12:9, 12) Yn wir, unben creulon iawn ydy Satan. Mae’n cael boddhad gwyrdroëdig o weld bodau dynol yn dioddef. Satan—nid Duw—sy’n gyfrifol am ddioddefaint pobl.

YSTYRIWCH: Dim ond drwgweithredwr cythreulig, dideimlad a fyddai’n achosi pobl ddiniwed i ddioddef. I’r gwrthwyneb, mae’r Beibl yn dweud: “Cariad ydy Duw.” (1 Ioan 4:8) Yn unol â’i bersonoliaeth gariadus, “fyddai Duw byth yn gwneud drwg; a’r Un sy’n rheoli popeth yn gwneud dim o’i le!”—Job 34:10.

Ond, efallai y byddwch chi’n meddwl, ‘Am faint bydd y Duw Hollalluog yn caniatáu i Satan reoli mewn ffordd mor ofnadwy?’ Fel rydyn ni wedi ei weld, mae Duw yn casáu drygioni, ac mae ein dioddefaint yn achosi poen mawr iddo. Ar ben hynny, mae ei Air yn ein hysgogi: “Rhowch y pethau dych chi’n poeni amdanyn nhw iddo fe, achos mae e’n gofalu amdanoch chi.” (1 Pedr 5:7) Mae Duw yn ein caru ni ac mae ganddo’r rym i gael gwared ar ddioddefaint ac anghyfiawnder, fel y bydd yr erthygl nesaf yn esbonio. *

^ Par. 7 Am fwy o wybodaeth ynglŷn â pham mae ’na gymaint o ddioddefaint, gweler gwers 26 y llyfr Mwynhewch Fywyd am Byth! a gyhoeddir gan Dystion Jehofa ac sydd ar gael i’w lawrlwytho am ddim oddi ar www.pr2711.com/cy.