Y Blaned Fyw
Ni fyddai unrhyw fywyd o gwbl ar y ddaear oni bai am gyfres o “gyd-ddigwyddiadau” hynod o ffodus. Cyn yr ugeinfed ganrif, doedd neb yn gwybod rhyw lawer am y cyd-ddigwyddiadau hyn. Er enghraifft:
-
Lleoliad y ddaear yng ngalaeth y Llwybr Llaethog ac yng nghysawd yr haul, yn ogystal ag orbit, gogwydd, a chyflymder cylchdroi’r ddaear, a maint anarferol ei lleuad
-
Maes magnetig ac atmosffer sy’n amddiffyn y ddaear
-
Cylchredau naturiol sy’n glanhau ac yn ailgylchu dŵr ac aer
Wrth ichi ystyried y pynciau hyn, gofynnwch, ‘Ai hap a damwain neu gynllun bwriadol sy’n gyfrifol am nodweddion y ddaear?’
“Cyfeiriad” Perffaith y Ddaear
Sut byddech chi’n ysgrifennu eich cyfeiriad? Oni fyddech chi’n cynnwys eich stryd, eich tref ac efallai eich gwlad? O ran cymhariaeth, “gwlad” y ddaear yw’r Llwybr Llaethog, “tref” y ddaear yw cysawd yr haul—sef yr haul a’i blanedau— a “stryd” y ddaear yw orbit y ddaear yng nghysawd yr haul. Oherwydd y cynnydd ym maes seryddiaeth a ffiseg, mae gwyddonwyr bellach yn deall pa mor arbennig yw lleoliad y ddaear yn y bydysawd.
I ddechrau, mae cysawd yr haul, ein “tref,” wedi ei leoli’n ddelfrydol yng ngalaeth y Llwybr Llaethog—heb fod yn rhy agos i’r canol nac ychwaith yn rhy bell ohono. “Y gylchfa drigiadwy” yw enw gwyddonwyr ar yr ardal hon. Yma, mae lefelau’r elfennau cemegol i gynnal bywyd yn berffaith. Yn bellach o’r canol, mae’r elfennau hyn yn rhy brin; yn nes at y canol, mae hi’n rhy beryglus oherwydd lefel ymbelydredd a ffactorau eraill. “Rydyn ni’n byw yn y lle gorau posibl,” meddai’r cylchgrawn Scientific American.1
Y “stryd” delfrydol: Mae “stryd” y ddaear, neu’r orbit yng nghysawd yr haul, yr un mor ddelfrydol. Mae orbit y ddaear tua 93 miliwn o filltiroedd o’r haul, mewn cylchfa gyfyng lle na fydd bywyd yn fferru nac yn ffrïo. Ar ben hynny, mae llwybr y ddaear o gwmpas yr haul bron iawn ar siâp cylch, sy’n golygu bod y pellter rhwng y ddau yn aros fwy neu lai yr un fath drwy gydol y flwyddyn.
Mae’r haul yn “bwerdy” perffaith ar gyfer y ddaear. Mae’n sefydlog, yn ddelfrydol o ran maint, ac yn cynhyrchu ynni sy’n cwrdd ag anghenion y ddaear i’r dim. Dyna pam mae’n cael ei alw’n “seren arbennig iawn.”2
Y “cymydog” perffaith: Petasech chi’n gorfod dewis “cymydog” ar gyfer y ddaear, fe fyddai’n anodd dod o hyd i un gwell na’r
lleuad. Mae diamedr y lleuad ychydig dros chwarter diamedr y ddaear. Felly, o’i chymharu â lleuadau eraill yng nghysawd ein haul, mae ein lleuad ni yn rhyfeddol o fawr o’i chymharu â’r blaned y mae’n perthyn iddi. Cyd-ddigwyddiad? Annhebyg iawn.Y lleuad sy’n bennaf gyfrifol am lanw a thrai’r moroedd sy’n chwarae rhan bwysig yn ecoleg y ddaear. Oherwydd y lleuad mae’r ddaear yn troi’n sefydlog ar ei hechelin. Oni bai am y lleuad, fe fyddai ein planed yn simsanu fel chwyrligwgan, neu hyd yn oed yn troi ar ei hochr fel petai. Pe byddai hynny’n digwydd, fe fyddai’r newidiadau i’r hinsawdd ac i’r llanw yn drychinebus.
Gogwydd a throelliad perffaith y ddaear: Gogwydd y ddaear, o ryw 23.4 gradd, sy’n gyfrifol am y tymhorau. Mae hyn hefyd yn rheoli’r tymheredd ac yn creu cylchfaoedd hinsawdd gwahanol. “Ymddengys bod gogwydd echelin ein planed yn berffaith,” meddai’r llyfr Rare Earth—Why Complex Life Is Uncommon in the Universe.3
Oherwydd bod y ddaear yn troelli, mae hyd y dydd a’r nos hefyd yn berffaith. Petai’r ddaear yn troi’n arafach, fe fyddai’r dyddiau yn hirach a byddai ochr y ddaear sy’n wynebu’r haul yn crasu tra byddai’r ochr arall yn rhewi. Ar y llaw arall, petai’r ddaear yn troi’n gyflymach, fe fyddai’r dyddiau yn fyrrach, a byddai gwyntoedd cryfion yn chwythu yn ddi-dor, heb sôn am effeithiau niweidiol eraill.
System Amddiffynnol y Ddaear
Gydag ymbelydredd marwol a meteoroidau’n gyffredin, mae’r gofod yn lle peryglus. Ond eto, mae’n ymddangos fod y ddaear yn hedfan drwy’r “stondin saethu” galactig hon heb niwed. Sut felly? Oherwydd bod y ddaear wedi ei hamddiffyn gan arfwisg ryfeddol—maes magnetig ac atmosffer arbennig.
Maes magnetig y ddaear: Mae canol y ddaear yn belen o haearn tawdd sy’n troi gyda’r blaned ac yn creu maes magnetig anferth a phwerus sy’n ymestyn ymhell i’r gofod. Mae hyn yn ein hamddiffyn rhag holl rym pelydriad cosmig a grymoedd peryglus eraill sy’n deillio o’r haul. Ymhlith y rhain y mae gwynt yr haul, sef llif cyson o ronynnau egnïol. Hefyd, ceir fflerau solar sy’n rhyddhau, o fewn munudau, yr un faint o egni â biliynau o fomiau hydrogen, a ffrwydradau ar wyneb neu gorona’r haul sy’n hyrddio biliynau o dunelli o ddeunydd i’r gofod. Fe allwch chi weld tystiolaeth o’r ffordd y mae maes magnetig y ddaear yn eich amddiffyn. Mae fflerau solar a ffrwydradau yng nghorona’r haul yn
achosi sioeau o oleuadau lliwgar, neu awrorau, y gellir eu gweld yn haen uchaf yr atmosffer wrth ymyl pegynau magnetig y ddaear.Atmosffer y ddaear: Mae’r fantell o nwyon nid yn unig yn caniatáu inni anadlu ond mae hefyd yn ein hamddiffyn. Mae haen allanol yr atmosffer, y stratosffer, yn cynnwys math o ocsigen a elwir yn osôn, sy’n amsugno hyd at 99 y cant o’r pelydrau uwchfioled sy’n taro’r ddaear. Felly, mae’r haen osôn yn helpu i amddiffyn bywyd—gan gynnwys bodau dynol a’r plancton sy’n cynhyrchu llawer o’n hocsigen—rhag ymbelydredd. Mae lefel yr osôn yn y stratosffer yn amrywio. Mae’n cynyddu fel y mae lefel yr ymbelydredd uwchfioled yn cynyddu. Felly, mae’r haen osôn yn system amddiffynnol ddeinamig a hynod o effeithiol.
Mae’r atmosffer yn ein hamddiffyn ni rhag cael ein peledu bob dydd â deunydd o’r gofod—miliynau o ddarnau sy’n amrywio o ran maint o ronynnau mân i gerrig anferth. Mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n llosgi’n ulw yn yr atmosffer, gan droi’n sêr gwib, sef meteorau. Fodd bynnag, nid yw system amddiffynnol y ddaear yn rhwystro’r math o ymbelydredd sy’n hanfodol i fywyd, fel gwres a golau gweladwy. Mae’r atmosffer yn helpu i ddosbarthu gwres o gwmpas y glôb, ac yn ystod y nos mae’n gweithredu fel mantell gan arafu’r broses o golli gwres.
Yn sicr, mae atmosffer y ddaear a’i faes magnetig yn ddyluniadau rhyfeddol nad ydyn ni’n eu deall yn iawn eto. Gellir dweud yr un peth am y cylchredau sy’n cynnal bywyd ar y blaned hon.
Ai cyd-ddigwyddiad yw’r ffaith fod gan y ddaear ddwy system amddiffynnol ddeinamig?
Cylchredau Naturiol Sy’n Cynnal Bywyd
Petai dinas yn colli ei chyflenwad o ddŵr glân ac awyr iach, a phetai’r system garthffosiaeth yn methu, yn fuan iawn y byddai afiechydon yn rhemp a marwolaethau’n dilyn. Ystyriwch: Dydy’r ddaear ddim fel tŷ bwyta lle mae bwyd yn cael ei gyflenwi o’r tu allan a sbwriel yn cael ei gludo i ffwrdd. Dydyn ni ddim yn mewnforio awyr iach a dŵr glân o’r gofod nac ychwaith yn allforio gwastraff. Felly, sut mae’r amgylchedd yn aros yn iach ar gyfer bywyd? Yr ateb: y cylchredau naturiol, er enghraifft, y cylchredau dŵr, carbon, ocsigen, a nitrogen, sy’n cael eu disgrifio a’u darlunio’n syml yma.
Y gylchred ddŵr: Mae dŵr yn hanfodol ar gyfer bywyd. Ni all neb fyw hebddo am fwy nag ychydig o ddyddiau. Mae’r gylchred ddŵr yn cludo dŵr croyw o amgylch y blaned. Mae tair rhan i’r broses. (1) Mae ynni’r haul yn codi dŵr i’r atmosffer drwy anweddiad. (2) Mae’r dŵr pur hwn yn cyddwyso i ffurfio cymylau. (3) Mae cymylau, yn eu tro, yn ffurfio glaw, cenllysg, eirlaw, neu eira, sy’n syrthio ar y ddaear yn barod i gael ei anweddu unwaith eto, gan gwblhau’r cylch. Faint o ddŵr sy’n cael ei ailgylchu bob blwyddyn? Yn ôl yr amcangyfrifon, digon i orchuddio wyneb y ddaear gyda mwy na dwy droedfedd a hanner o ddŵr.4
Y cylchredau carbon ac ocsigen: Er mwyn byw, mae pobl ac anifeiliaid yn cymryd ocsigen i mewn ac yn rhyddhau carbon deuocsid. Felly, pam nad yw’r cyflenwad ocsigen yn darfod a’r atmosffer yn cael ei orlwytho gyda charbon deuocsid? Oherwydd y gylchred ocsigen. (1) Mewn proses ryfeddol a elwir yn ffotosynthesis, mae planhigion yn cymryd i mewn y carbon deuocsid rydyn ni yn ei anadlu allan, ac yn defnyddio ynni’r haul i’w droi yn garbohydradau ac ocsigen. (2) Wrth inni gymryd ocsigen i mewn rydyn ni’n cwblhau’r cylch. Mae’r holl broses o gynhyrchu aer i’w anadlu a chreu carbohydradau yn digwydd mewn ffordd lân, effeithlon, a chwbl ddistaw.
Y gylchred nitrogen: Mae bywyd ar y ddaear yn dibynnu ar gynhyrchu moleciwlau organig fel proteinau. (A) I gynhyrchu’r moleciwlau hyn y mae angen nitrogen. Yn ffodus, mae 78 y cant o’r atmosffer yn nitrogen. Mae mellt a bacteria yn troi’r nitrogen yn gyfansoddion y gall planhigion eu hamsugno. (B) Yna, mae’r planhigion yn clymu’r cyfansoddion hyn wrth foleciwlau organig. Bydd anifeiliaid sy’n bwyta’r planhigion hyn hefyd yn derbyn nitrogen. (C) Yn olaf, pan fydd planhigion ac anifeiliaid yn marw, bydd y cyfansoddion nitrogen ynddyn nhw yn cael eu torri i lawr gan facteria. Mae’r broses o bydru yn rhoi’r nitrogen yn ôl i’r pridd a’r atmosffer, gan gwblhau’r cylch.
Ailgylchu Heb ei Ail!
Bob blwyddyn, mae bodau dynol, gyda’u holl dechnoleg, yn creu tunelli di-rif o wastraff gwenwynig na ellir ei ailgylchu. Ond, mae’r ddaear yn ailgylchu ei holl wastraff yn berffaith, gan ddefnyddio dulliau cemegol dyfeisgar.
Sut y datblygodd system ailgylchu’r ddaear felly? Dywed yr ysgrifennwr ar faterion crefyddol a gwyddonol M. A. Corey: “Petai ecosystem y ddaear wedi esblygu drwy hap a damwain yn unig, ni fyddai’n bosibl iddi gyrraedd lefel mor berffaith o ran cydbwysedd amgylcheddol.”5 Ydych chi’n cytuno?