GWERS 13
Beth Yw Arloeswr?
Yn aml, mae’r gair “arloeswr” yn cyfeirio at rywun sy’n mentro i ardaloedd newydd, ac sy’n paratoi’r ffordd i’r rhai sy’n dod ar ei ôl. Ar un olwg, roedd Iesu’n arloeswr oherwydd ei fod wedi dod i’r ddaear er mwyn cyflawni gweinidogaeth a fyddai’n agor y ffordd i eraill gael iachawdwriaeth. (Mathew 20:28) Heddiw, mae ei ddilynwyr yn dilyn ei esiampl drwy dreulio cymaint o amser ag sy’n bosibl yn ‘gwneud disgyblion.’ (Mathew 28:19, 20) Ymhlith Tystion Jehofa, mae rhai’n gallu gwasanaethu fel arloeswyr.
Mae arloeswr yn pregethu’n llawn amser. Mae Tystion Jehofa i gyd yn cyhoeddi’r newyddion da. Ond mae rhai wedi trefnu eu hamser, fel arfer drwy wneud llai o waith cyflogedig, er mwyn bod yn rhydd i bregethu am 70 awr y mis fel arloeswyr parhaol. Mae eraill yn cael eu dewis i fod yn arloeswyr arbennig mewn ardaloedd lle mae angen mawr am gyhoeddwyr y Deyrnas. Maen nhw’n treulio 130 o oriau neu fwy yn y weinidogaeth bob mis. Mae arloeswyr yn fodlon byw bywyd syml oherwydd eu bod yn hyderus y bydd Jehofa yn gofalu amdanyn nhw. (Mathew 6:31-33; 1 Timotheus 6:6-8) Nid pawb sy’n gallu arloesi’n llawn amser, ond mae rhai’n medru bod yn arloeswyr cynorthwyol drwy dreulio 30 neu 50 awr y mis yn y gwaith pregethu.
Cariad at Dduw a chariad at bobl eraill sy’n ysgogi arloeswyr. Fel Iesu, rydyn ni’n sylweddoli bod gwir angen i bobl glywed am Dduw a’i fwriadau. (Marc 6:34) Ond mae gennyn ni wybodaeth a all helpu pobl heddiw yn ogystal â rhoi gobaith pendant iddyn nhw ar gyfer y dyfodol. Oherwydd cariad tuag at eu cymdogion, mae arloeswyr yn rhoi’n hael o’u hamser a’u hegni er mwyn helpu eraill yn ysbrydol. (Mathew 22:39; 1 Thesaloniaid 2:8) O wneud hyn, mae ffydd yr arloeswyr yn cael ei chryfhau ac maen nhw’n teimlo’n hapusach ac yn agosach at Dduw.—Actau 20:35.
-
Beth yw gwaith arloeswr?
-
Beth sy’n ysgogi rhai i arloesi’n llawn-amser?