GWERS 19
Pwy Yw’r “Gwas Ffyddlon a Chall”?
Ychydig cyn iddo farw, cafodd Iesu sgwrs â phedwar o’i ddisgyblion—Pedr, Iago, Ioan, ac Andreas. Wrth iddo ragfynegi’r digwyddiadau a fyddai’n arwydd o’i bresenoldeb yn y dyddiau diwethaf, fe gododd gwestiwn pwysig: “Pwy ynteu yw’r gwas ffyddlon a chall a osodwyd gan ei feistr dros weision y tŷ, i roi eu bwyd iddynt yn ei bryd?” (Mathew 24:3, 45; Marc 13:3, 4) Fel eu “meistr,” roedd Iesu’n addo i’w ddisgyblion y byddai’n penodi rhai a fyddai’n darparu bwyd ysbrydol yn rheolaidd i’w ddilynwyr yn ystod y dyddiau diwethaf. Pwy fyddai’n rhan o’r “gwas” hwn?
Grŵp bach o ddilynwyr Iesu sydd wedi eu heneinio gan ysbryd Duw. Mae’r “gwas” yn gysylltiedig â Chorff Llywodraethol Tystion Jehofa. Mae’n darparu bwyd ysbrydol i’w gyd-addolwyr yn ei bryd. Rydyn ni’n dibynnu ar y gwas ffyddlon ‘i roi ein bwyd inni’ yn rheolaidd.—Luc 12:42.
Mae’n gofalu am deulu Duw. (1 Timotheus 3:15) Rhoddodd Iesu gyfrifoldeb pwysig i’r gwas ffyddlon, sef, gofalu am y rhan ddaearol o gyfundrefn Jehofa. Mae hynny’n cynnwys edrych ar ôl asedau materol y gyfundrefn, arwain y gwaith pregethu, a’n dysgu ni drwy’r cynulleidfaoedd. Felly, er mwyn rhoi’r hyn rydyn ni’n ei angen yn ei bryd, mae’r “gwas ffyddlon a chall” yn dosbarthu bwyd ysbrydol inni drwy gyfrwng y cyhoeddiadau rydyn ni’n eu defnyddio yn y weinidogaeth a thrwy gyfrwng y cyfarfodydd a’r cynulliadau.
Mae’r gwas yn ffyddlon i wirioneddau’r Beibl ac i’r comisiwn o bregethu’r newyddion da, ac mae’n gall yn y ffordd y mae’n gofalu am fuddiannau Crist ar y ddaear. (Actau 10:42) Mae’r cynnydd yn y nifer sy’n addoli Jehofa a’r wledd ysbrydol y maen nhw’n ei mwynhau yn dystiolaeth o fendith Jehofa ar waith y “gwas.”—Eseia 60:22; 65:13.
-
Pwy gafodd ei benodi gan Iesu i fwydo ei ddisgyblion yn ysbrydol?
-
Ym mha ffyrdd y mae’r gwas yn ffyddlon ac yn gall?