GWERS 3
Ai Neges Duw Yw’r Newyddion Da?
1. Pwy yw Awdur y Beibl?
Mae’r newydd da am fywyd tragwyddol ar y ddaear wedi ei ysgrifennu yn y Beibl. (Salm 37:29) Casgliad o 66 llyfr yw’r Beibl. Defnyddiodd Duw ryw 40 o ddynion ffyddlon i ysgrifennu’r llyfrau hynny. Cafodd y pum llyfr cyntaf eu hysgrifennu gan Moses tua 3,500 o flynyddoedd yn ôl. Cafodd y llyfr olaf ei ysgrifennu gan yr apostol Ioan, dros 1,900 o flynyddoedd yn ôl. Ond syniadau pwy sydd yn y Beibl? Fe wnaeth Duw gyfathrebu â’r ysgrifenwyr hynny trwy gyfrwng yr ysbryd glân. (2 Samuel 23:2) Roedden nhw’n ysgrifennu meddyliau Duw yn hytrach na’u meddyliau nhw eu hunain. Jehofah, felly, yw Awdur y Beibl.—Darllenwch 2 Timotheus 3:16; 2 Pedr 1:20, 21.
Gwyliwch y fideo Pwy Yw Awdur y Beibl?
2. Sut gallwn ni fod yn sicr fod y Beibl yn wir?
Rydyn ni’n gwybod bod y Beibl yn dod oddi wrth Dduw oherwydd ei fod yn rhagfynegi’r dyfodol yn fanwl gywir. Nid yw pobl yn medru gwneud hynny. (Josua 23:14) Dim ond Duw’r Hollalluog sy’n medru rhagweld dyfodol dyn yn gywir.—Darllenwch Eseia 42:9; 46:10.
Bydden ni’n disgwyl i lyfr oddi wrth Dduw fod yn unigryw, a dyna’n union ydy’r Beibl. Mae biliynau o gopïau, mewn cannoedd o ieithoedd, wedi cael eu dosbarthu. Er ei fod yn hen lyfr, nid yw’r Beibl yn anghytuno â ffeithiau gwyddonol. Hefyd, dydy’r 40 o ysgrifenwyr ddim yn gwrth-ddweud ei gilydd. * Ar ben hynny, mae cariad Duw i’w weld yn eglur yn y Beibl. Mae’n gallu newid bywydau pobl er gwell. Oherwydd y ffeithiau hyn, mae miliynau o bobl yn derbyn y Beibl fel Gair Duw.—Darllenwch 1 Thesaloniaid 2:13.
Gwyliwch y fideo Sut Gallwn Ni Fod yn Sicr Fod y Beibl yn Wir?
3. Beth yw thema’r Beibl?
Thema ganolog y Beibl yw’r newyddion da am fwriad Duw ar gyfer dynolryw. Mae’r Ysgrythurau’n esbonio sut y collodd dyn y fraint o gael byw mewn paradwys ar y ddaear, a sut y bydd paradwys yn cael ei hadfer yn y dyfodol.—Darllenwch Datguddiad 21:4, 5.
Mae Gair Duw hefyd yn cynnwys gorchmynion, egwyddorion, a chyngor. Mae’r Beibl yn dangos sut mae Duw yn ymdrin â phobl, ac yn datgelu natur Duw. Trwy ddarllen y Beibl, gallwch ddod i adnabod Duw a dysgu sut i ddod yn ffrind iddo.—Darllenwch Salm 19:7, 11; Iago 2:23; 4:8.
4. Sut gallwch ddeall y Beibl?
Bydd y llyfryn hwn yn eich helpu i ddeall y Beibl drwy ddilyn yr un dull yr oedd Iesu’n ei ddefnyddio. Roedd Iesu’n cyfeirio at wahanol rannau o’r Beibl er mwyn helpu pobl i “ddeall yr Ysgrythurau.”—Darllenwch Luc 24:27, 45.
Y newydd da oddi wrth Dduw yw un o’r pethau mwyaf diddorol yn y byd. Ond eto, mae rhai pobl yn ddi-hid ac eraill yn cael eu cythruddo. Ond peidiwch â digalonni. Mae eich gobaith ynglŷn â bywyd tragwyddol yn dibynnu ar ddod i adnabod Duw.—Darllenwch Ioan 17:3.
^ Par. 3 Gweler y llyfryn Llyfr i Bawb.