Pam Nad Yw Tystion Jehofa yn Defnyddio’r Groes yn eu Haddoliad?
Mae llawer o bobl yn gweld y groes fel symbol rhyngwladol o Gristnogaeth. Er bod Tystion Jehofa yn Gristnogion, nid ydyn ni’n defnyddio’r groes yn ein haddoliad. Pam ddim?
Un rheswm yw nad yw’r Beibl yn dangos i Iesu farw ar y groes, ond ar bren artaith neu stanc. Ar ben hynny, mae’r Beibl yn rhoi rhybudd cryf iawn i Gristnogion i ‘ffoi oddi wrth eilunaddoliaeth,’ sy’n golygu peidio â defnyddio’r groes mewn addoliad.—1 Corinthiaid 10:14; 1 Ioan 5:21.
Dywedodd Iesu rywbeth pwysig iawn: “Os bydd gennych gariad tuag at eich gilydd, wrth hynny bydd pawb yn gwybod mai disgyblion i mi ydych.” (Ioan 13:34, 35) Felly roedd Iesu’n awgrymu nid y groes neu ryw ddelw arall fydd yn uniaethu ei wir ddilynwyr, ond y cariad hunanaberthol sydd ganddyn nhw.